Yr Wybodaeth Ddiweddaraf
12/01/2022
Cwblhawyd y gwiriadau misol ar ddraeniau a gylïau priffyrdd pentref Llan-faes, gan gynnwys y ffos sydd gydag ymyl Y Lawnt, ar 1 Tachwedd 2021, 30 Tachwedd 2021 a’r tro diweddaraf ar 7 Ionawr 2022.
08/11/2021
Cwblhawyd y gwiriad olaf o system ddraenio / gylis y briffordd ym mhentref Llanmaes, gan gynnwys y ffos wrth ochr y Lawnt ar 1 Tachwedd, 2021.
07/10/2021
Cwblhawyd y gwiriad olaf o system ddraenio / gylis y briffordd ym mhentref Llanmaes, gan gynnwys y ffos wrth ochr y Lawnt ar 1 Hydref, 2021.
07/09/2021
Cwblhawyd y gwiriad olaf o system ddraenio / gylis y briffordd ym mhentref Llanmaes, gan gynnwys y ffos wrth ochr y Lawnt ar 27 Awst 2021.
05/05/2021
Cwblhawyd y gwiriad diweddaraf ar system ddraenio / gylïau y briffordd ym mhentref Llanmaes, gan gynnwys y ffos ochr yn ochr â’r Lawnt ar 28 Ebrill 2021.
20/04/2021
Mae AECOM Ltd., sy’n gweithredu fel Asiant ar ran Cyngor Bro Morgannwg, yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer gweithredu’r cynllun. Gweler y llythyr i breswylwyr lleol a'r wefan ymgynghori am fwy o wybodaeth. Os hoffech ymateb i'r ymgynghoriad mae'n rhaid i sylwadau cael ei gyflwyno erbyn 18 Mai.
13/04/2021
Cwblhawyd yr archwiliad diweddaraf o ddraeniau/gylïau'r briffordd ym mhentref Llan-faes, gan gynnwys y ffos ddraenio ar hyd ochr orllewinol lôn y pentref, ar 30 Mawrth 2021.
15/03/2021
Er mwyn cynorthwyo â phryderon parhaus ynghylch llifogydd yn y pentref yn ystod glaw trwm, mae'r Cyngor archwilio draeniau / gylïau'r briffordd yn fisol, gan gynnwys y ffos ddraenio ar hyd ochr orllewinol y ffordd ar hyd The Green.
Y flwyddyn galendr hon cafodd yr asedau hyn eu gwirio a'u glanhau ar 05 Chwefror 2021 ac yna eto ar 26 Chwefror 2021. Cynhelir yr arolygiad nesaf ddiwedd mis Mawrth 2021.
15/03/2021
Mae’r dyluniad manwl wedi cael ei gyflwyno gan ymgynghorwyr y cynllun AECOM ac mae'n cael ei adolygu'n fewnol ar hyn o bryd cyn ei gymeradwyo. Mae trosolwg o gynigion y cynllun ar gael yma. Nid yw’r adolygiad o'r pecyn adeiladu manwl wedi cael ei gynnal eto, ond mae disgwyl iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2021, gyda'r manylion ychwanegol bellach yn cael eu trosglwyddo i wahanol dirfeddianwyr â diddordeb drwy asiant tir y Cyngor. Mae cam nesaf y gwaith yn cynnwys paratoi cais cynllunio, gan gynnwys ymgynghori â'r cyhoedd, lle bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno'n ehangach i'r gymuned. Yn amodol ar drafodaethau llwyddiannus â thirfeddianwyr a chael yr holl gydsyniad a chymeradwyaeth angenrheidiol, bwriedir cynnal y gwaith adeiladu yn haf 2021.
Rhoddwyd diweddariad llawn i'r Cabinet ar 25 Ionawr 2021 (Cofnod C456) ac mae copi o raglen ddiweddaraf y cynllun ar gael yma.
08/02/2021
Mae’r cynllun manwl wedi cael ei gyflwyno gan ymgynghorwyr y cynllun AECOM ac ar hyn o bryd mae'n cael ei adolygu'n fewnol cyn cael ei gymeradwyo.
Gellid ffeindio trosolwg o’r cynllun gynnig yma.
Dechreuwyd adolygiad o’r pecyn adeiladu ym mis Ragfur 2020 a ddylid ei gwblhau ym mis Chwefror 2021.
Mae’r cyfnod nesaf y gwaith yn cynnwys paratoi cais cynllunio, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, a fydd yn cychwyn unwaith i’r cynllun olaf cael ei gymeradwyo yn fewnol.
Yn amodol â thrafodaethau llwyddiannus gyda thirfeddianwyr a sicrhau’r holl gydsyniadau a chymeradwyaethau angenrheidiol, bwriedir adeiladu ar ddechrau haf 2021.
Adroddwyd diweddariad llawn i'r Cabinet ar 25 Ionawr 2021 (Cofnod C456) ac mae copi o’r rhaglen ddiweddaraf y cynllun ar gael yma.