Cost of Living Support Icon

Gwaith Lliniaru Llifogydd Coldbrook

Crëwyd Cynllun Lliniaru Llifogydd Coldbrook er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd i dros 200 o eiddo a thair ysgol yn ardal Y Barri. Mae’r Cyngor, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cydweithio i greu’r cynllun ac mae gwaith amrywiol wedi'i drefnu ar hyd cwrs dŵr Coldbrook

 

Gwneir gwaith drwy gydol 2016 yn ardal y Barri, a gallwch gael gwybodaeth am hanes llifogydd yn yr ardal a'r newyddion diweddaraf a datblygiadau'r cynllun yma.

 

Coldbrook Dyfan Road works

 

 

 

Cysylltu â ni

Dyer & Butler yw’r prif gontractwr sy'n gwneud gwaith ar y safle. Gallwch gysylltu â’r Ymgynghorydd Cyswllt Cymunedol, Sian Gadd, i drafod unrhyw bryderon ynghylch y gwaith sy’n cael ei wneud.

 

Dyer and Butler
Rampart House

Kingsway

Fforestfach

SA5 4DL

 

Peter Brett Associates (Martin Wright Associates MWA gynt) yw’r ymgynghorwyr peirianneg a benodwyd gan Gyngor Bro Morgannwg i ddylunio, datblygu a goruchwylio cam adeiladu'r cynllun. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau am unrhyw agwedd ar y project, mae croeso i chi gysylltu â Peter Brett Associates drwy'r post neu dros y ffôn.

 

Peter Brett Associates

Caversham Bridge House

Waterman Place

Reading

RG1 8DN

  • 0118 950 0761

 

Mae’r holl wefannau canlynol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y sefydliadau sydd ynghlwm wrth ddatblygu’r cynllun hwn, neu wybodaeth i godi ymwybyddiaeth am y perygl o lifogydd a sut y gallwch chi ei leihau.

 

 

Ffeithiau Allweddol

Hyrwyddwyd y cynllun gan:

 - Cyngor Bro Morgannwg

 

Ariannwyd gan:

- Cyngor Bro Morgannwg
- Llywodraeth Cymru

- Cyfoeth Naturiol Cymru

- Cyllid Datblygu Rhanbarthol yr UE

 

Eiddo mewn perygl o lifogydd:

205 eiddo preswyl
3 ysgol

 

Amcan gost y cynllun:

2.9 miliwn

 

Amserlen ddisgwyliedig:

Disgwylir i’r cam adeiladu gael ei gwblhau erbyn

Rhagfyr 2017

 

Gwaith Adeiladu/Gwella

2016/2017

 

Amcan cyffredinol:

Lleihau’r risg o lifogydd yn nalgylch Coldbrook Y Barri yn sylweddol

 

Prif swyddog:

Clive Moon

 

Prif Gontractwr y Cynllun:

Dyer & Butler

 

  • Pwy sy’n hyrwyddo ac ariannu’r cynllun?

    Cyngor Bro Morgannwg sy’n hyrwyddo Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Dalgylch Coldbrook ac mae Llywodraeth Cymru, Cyllid Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bro Morgannwg yn ei ariannu.

     
  • Beth sy’n achosi’r llifogydd?

    Mae’r Coldbrook yn gwrs dŵr eithaf bach a fyddai wedi bod yn agored ac yn amlwg i’w weld wrth iddo lifo o’r gorllewin i’r dwyrain drwy’r dalgylch. Fodd bynnag, dros y degawdau diwethaf, gorchuddiwyd rhannau o’r cwrs dŵr gan beipen a gloddiwyd dan y ddaear er mwyn galluogi datblygiadau newydd. Mae’r 'cau'r cwrs dŵr' hwn wedi creu perygl llifogydd sylweddol yn raddol o ganlyniad i'r ffactorau canlynol:

     

     - Cyn adeiladu ar y tir, yn ystod digwyddiad o lifogydd, byddai’r cwrs dŵr wedi llifo i’r caeau cyfagos, lle byddai wedi draenio heb achosi unrhyw broblemau. Erbyn hyn, adeiladwyd ar yr y gorlifdir naturiol hwn. Mae’r rhan fwyaf o ddalgylch y cwrs dŵr, a oedd yn arfer bod yn gaeau gwyrdd, wedi’i ddatblygu at ddibenion preswyl neu fasnachol. Gall caeau a mannau agored ‘amsugno’ llawer o’r dŵr glaw sy’n syrthio arnynt, ond unwaith yr adeiledir arnynt, gall toeau caled ac ardaloedd palmantog atal hynny rhag digwydd, a chaiff y rhan fwyaf o’r dŵr glaw ei gyfeirio'n uniongyrchol i’r cwrs dŵr drwy system beipiau, carthffosau a draeniau'r briffordd.

     

     - Golyga trefoli’r ardal bod cynnal a chadw’r ceuffosydd yn anodd iawn. Mae rhai o'r rhannau critigol yn pasio o dan ffyrdd a thrwy eiddo preifat.

     

     - Mae newid yn yr hinsawdd yn cynyddu dwysedd y digwyddiadau glaw. Erbyn heddiw, mae mwy o ddŵr angen cael i mewn a thrwy’r system. Mae hon yn broblem a fydd yn gwaethygu wrth i newid yn yr hinsawdd barhau i ddigwydd.

     
  • Beth yw nod y project?

    Lleihau’r risg o lifogydd yn yr ardal yn sylweddol.
  • Sut fydd y cynllun yn lleihau'r perygl o lifogydd?

    Rydym wedi ystyried opsiynau amrywiol i leihau’r perygl o lifogydd, a’r datrysiad terfynol yw cyfuniad o’r canlynol:


    Byddwn yn adeiladu peipiau mwy sy’n gallu ymdopi’n well â dŵr glaw o'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau glaw eithafol. Golyga hyn gynyddu maint y ceuffosydd presennol, neu adeiladu ceuffosydd ychwanegol ar lwybr gwahanol.


    Bydd dŵr glaw yn cael ei gyfeirio i ardaloedd storio arbenigol nes bydd y glaw wedi pasio heibio. Unwaith y bydd y glaw wedi stopio a swm y dŵr yn y peipiau wedi gostwng, gellir rhyddau’r dŵr sydd wedi’i ‘storio’ a chaiff lifo i ffwrdd heb achosi unrhyw broblemau.


    Drwy ddefnyddio modelu cyfrifiadurol manwl, rydym wedi gallu amcangyfrif ble fydd y llifogydd yn digwydd, a ble bydd unrhyw ddŵr llifogydd yn mynd. Yna defnyddiwyd y wybodaeth hon i addasu'r system, a'r amgylchedd adeiledig lleol, i sicrhau na fydd effaith andwyol iawn ar bobl ac eiddo pan fo llifogydd yn digwydd.


    Sicrhau bod busnesau lleol, y cyhoedd, y gwasanaethau brys a’r cyrff cyhoeddus perthnasol yn yr ardal yn gwybod a deall am y peryglon posibl sydd ynghlwm wrth lifogydd, a gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i ddiogelu eu hunain a'r gymuned.


    Sicrhau bod yr holl systemau draenio yn yr ardal yn cael eu cynnal a'u cadw’n briodol a bod unrhyw ddatblygiadau i’r dyfodol yn cael eu dylunio i sicrhau nad yw'r perygl o lifogydd yn cynyddu.

     
  • A fydd y cynllun arfaethedig yn atal llifogydd rhag digwydd byth eto?

    Bydd y cynllun yn lleihau’r perygl o lifogydd yn sylweddol, OND ni all unrhyw gynllun rheoli llifogydd gael gwared â’r risg yn gyfan gwbl.Bydd bob amser bosibilrwydd y gellir cael digwyddiad dŵr glaw a fydd mor eithafol na fydd capasiti’r system newydd yn gallu ymdopi ag ef.

     
  • Pa lefel o amddiffyniad fydd y system newydd yn ei chynnig?

    Yn y DU, mae'n arferol dylunio systemau draeniau dŵr wyneb newydd i safon a fydd yn osgoi llifogydd yn ystod glaw difrifol sydd mor drwm na fydd ond yn digwydd unwaith pob 100 mlynedd (rydym hefyd yn cynnwys ffactor ychwanegol o +20% i gynnwys effaith andwyol newid yn yr hinsawdd i'r dyfodol). 

  • Pryd fydd gwaith yn digwydd ac am ba hyd fydd y gwaith yn parhau?
    Cwblhawyd y gwaith ymchwilio, asesiad o'r opsiynau, a dyluniad manwl y dewis a ffafrir erbyn Mawrth 2014. Dechreuodd cyfnod adeiladu'r cynllun ym mis Ionawr 2016 a bwriedir iddo redeg tan fis Hydref 2016.  
  • A fydd llawer o aflonyddwch pan fydd y gwaith adeiladu yn digwydd

    Mae'n anodd iawn gosod pibellau mawr yn y ddaear heb unrhyw darfu ar yr ardal leol. Mae lleihau’r amhariad hwn yn ffactor arwyddocaol a gymerir i ystyriaeth wrth ddylunio sut y bydd y cynllun yn cael ei adeiladu. Lle bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn sicrhau bod y sŵn yn cael ei gadw i leiafswm, a dim ond pan fo’n hanfodol y defnyddir goleuadau traffig neu gau ffyrdd yn y tymor byr. 

     
  • Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar yr amgylchedd?

    Mae diogelu a gwella'r amgylchedd yn rhan bwysig o'r project. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynllun, rydym wedi gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r ardal wedi cael ei monitro'n ofalus a'i hasesu am bresenoldeb rhywogaethau fel dyfrgwn, llygod y dŵr, madfallod cribog, pysgod ymfudol, ystlumod, ac adar sy'n nythu. Cynlluniwyd unrhyw waith adeiladu arfaethedig i leihau aflonyddwch i gynefinoedd presennol, a lle bo modd byddwn yn cymryd pob cyfle i wella’r amgylchedd.   

  • Sut allai gael gwybod mwy am y cynllun?

    Mewn mannau eraill ar y wefan hon, ceir manylion am hanes y cynllun a gwybodaeth am y gwaith arfaethedig. Bydd yr adran Newyddion Diweddaraf hefyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd i roi gwybod i chi am y cynnydd. 

    Fel arall, sefydlwyd prif adeilad y project yn Nepo’r Cyngor yn Court Road, Y Barri, ac mae Sian Gadd, y Swyddog Cyswllt Cymunedol, ar gael ar gyfer sesiynau galw i mewn ar ddydd Llun o 9.30am – 2.30pm.