Cost of Living Support Icon

Llifogydd Coldbrook - Hanes

Ar 20 Gorffennaf 2007 bu glaw mawr yn y Barri yn ogystal â llefydd eraill ym Mro Morgannwg. Adroddwyd bod llifogydd sylweddol mewn eiddo ac ar ffyrdd oherwydd nad oedd cyrsiau dŵr a systemau draenio’r tir yn gallu ymdopi â dwyster y sefyllfa. 

 

Un o’r ardaloedd lle’r oedd y llifogydd yn fwyaf arwyddocaol oedd ar hyd llwybr cwrs dŵr Coldbrook sy’n arwain o ardal Colcot, trwy gyffiniau’r dref, Gibbonsdown, Tregatwg a Palmerston i’r nant agored ger yr A4231, Ffordd Gyswllt Dociau’r Barri. 

 

Cafwyd llifogydd mewn tua 100 eiddo preswyl a phedair ysgol ar hyd llwybr y cwrs dŵr a’r dalgylch. Effeithiwyd ar rai adeiladau cynddrwg fel na fu modd i'r preswylwyr ddychwelyd i'w heiddo am 6 mis.  

 

Barry Flooding 1

 

Toc wedi’r llifogydd ym mis Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Grŵp Rheoli Risg Llifogydd i ymchwilio llifogydd yn yr ardal yn benodol. Roedd y grŵp yn cynnwys preswylwyr lleol, Aelodau Etholedig a swyddogion yr Awdurdod Lleol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Dŵr Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) ac awdurdodau perthnasol eraill. Amcanion y grŵp oedd llunio cynllun rheoli risg cynhwysfawr ar gyfer yr ardal draenio trefol a datblygu’r cynllun er mwyn i weithredwyr y system a’r cyhoedd ei ddeall.

 

Ar yr un pryd, cwblhaodd Cyngor Bro Morgannwg ymarfer canfod ffeithiau gan wahodd preswylwyr yr effeithiodd y digwyddiad arnynt i gwblhau holiadur "Llifogydd - 20 Gorffennaf 2007”. Gofynnodd yr holiadur am wybodaeth fanwl am y digwyddiad ei hun, ei effaith ar eu heiddo a'r canlyniadau. Yr amcan oedd defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd er mwyn cyflwyno gwybodaeth well ar gyfer y cynlluniau rheoli a gostwng risg llifogydd eto. Ar y cyfan, cafwyd cyfradd ymateb o 59% a chafwyd gwybodaeth ddefnyddiol a manwl a fyddai'n hanfodol ar gyfer y weithdrefn.


Roedd yr ymateb i lifogydd mis Gorffennaf a dull cyffredinol y Cyngor o ymateb i risg llifogydd yn y dyfodol yn y dalgylch yn unol â dymuniad Llywodraeth Cymru i symud tuag at reoli risg trwy reoli risg yn gyfannol.


Cynigiodd y Cyngor y dylid gwneud astudiaeth o faterion risg llifogydd yn nalgylch Coldbrook ac yn ganlynol, derbyniodd Llywodraeth Cymru y cynigion fel rhan o astudiaeth brawf a fyddai’n cynorthwyo datblygu canllaw ac arfer gorau yng Nghymru yn y dyfodol.


Ym mis Tachwedd 2007, bu i Lywodraeth Cymru gymeradwyo gwneud Cyn Astudiaeth o Ddichonoldeb yn nalgylch Coldbrook. Cwblhaodd Cyngor Bro Morgannwg yr astudiaeth yn hydref 2008. Pennodd nifer o ddewisiadau gwella posibl ac argymhellodd ragor o ymchwiliadau manwl er mwyn sefydlu dichonoldeb llunio cynllun gwella cyfalaf.


Yn 2010, comisiynwyd Adroddiad Gwerthuso Project mwy manwl gan y Cyngor ac yna cwblhawyd hwn gan Martin Wright Associates. Wrth baratoi’r Adroddiad Gwerthuso, aseswyd yr holl wybodaeth a oedd ar gael a chrëwyd model cyfrifiadur hydrolig o system ddraenio’r ardal a'i ddefnyddio er mwyn archwilio opsiynau posibl er mwyn gostwng risg llifogydd.  Cafodd dadansoddiad budd cost a gwerthusiad opsiynau fod project gwaith cyfalaf yn ddichonol.


Cyflwynwyd canfyddiadau’r Adroddiad Gwerthuso i Lywodraeth Cymru a derbyniwyd bod y project yn addas i dderbyn cymorth grant y Llywodraeth. Cafodd ei gynnwys hefyd fel un o nifer fechan o gynlluniau yng Nghymru a fyddai’n gymwys am arian Ysbryd Cystadleuol yr UE.

 

Datblygu TAN 15 a Map Cyngor ar Risg o Lifogydd 

Coldbrook Barry Tan 15 Map

 

Mae hwn hefyd ar gael ar wefan Mapiau Cyngor Datblygu Cymru.