Cost of Living Support Icon

Partneriaeth Sifil

Daeth y Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 i rym ar 05 Rhagfyr 2005. Dyma fanylion am y gofynion cyfreithiol sydd ynghlwm wrth Gofrestru Partneriaeth Sifil

 

Mae’r wybodaeth ar y tudalennau hyn at ddibenion canllawiau cyffredinol yn unig ac nid yw’n eglurhad cyflawn na chynhwysfawr o Gyfreithiau Partneriaeth Sifil Cymru a Lloegr.

 

Cytundeb cyfreithiol rhwng dau berson o’r un rhyw yw partneriaeth sifil. Mae’n rhoi’r cyfle i gyplau o’r un rhyw ffurfio partneriaeth, a gydnabyddir yn gyfreithiol, i fod yn berthynas agosaf i’w gilydd, ac i fwynhau’r un hawliau a breintiau â chyplau priod

 

  • Rhaid i’r cwpl fod o’r un rhyw.
  • Ni ddylech fod mewn priodas neu bartneriaeth sifil eisoes.
  • Rhaid i chi fod dros 18 oed.
  • Os ydych o dan 18, ond dros 16, rhaid i chi ddod â chaniatâd ysgrifenedig gan riant neu warcheidwad cyfreithiol.

Os nad oes gan un neu'r ddau barti ddinasyddiaeth Brydeinig neu UE, rhaid iddynt gael cydsyniad y Swyddfa Gartref cyn rhoi rhybudd. 

 

Cofrestrwch eich Bwriad

Rhaid i gyplau gofrestru bwriad o ffurfio partneriaeth sifil gan alluogi 15 o ddiwrnodau cyn y mae modd ffurfio’r bartneriaeth. 

 

Unwaith y mae’r cyfnod aros wedi pasio, bydd y cwpl yn llofnodi dogfen gyfreithiol gerbron cofrestrydd partneriaethau sifil a dau dyst.

 

Nid oes rhaid cynnal seremoni, ond mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal seremonïau yn y Swyddfa Gofrestru ac yn ein Safleoedd Cymeradwy

 

Dyffryn Gardens

Mae ystod eang o eiddo trwyddedig gan gynnwys cestyll, adeiladau rhestredig, gerddi, goleudy, gwinllan, teml Roegaidd a llawer mwy.

 

Safleoedd Cymeradwy

Gofynnwch i ni fynychu 

Rydym yn fodlon ar gadw lle cychwynnol i gyplau sy’n dymuno cynllunio ymhell ymlaen llaw. 

 

I sicrhau y byddwn ni’n mynychu’ch priodas, cysylltwch â:

  • 01446 700111

Y Swyddfa Gofrestru

Y Lolfa Gorfforaethol yw’r prif ystafell seremoni, sydd â lle ar gyfer tua 80 o bobl.  Mae hefyd dwy ystafell arall ar gyfer partneriaethau sifil.

 

Dylech sicrhau ei bod hi'n addas ar eich cyfer ac ar gyfer eich gwesteion.

  Y Seremoni

 

Bydd Partneriaethau Sifil a gontractir mewn Safleoedd Cymeradwy yn gyfreithiol dim ond os yw’r adeilad wedi cael trwydded gan yr awdurdod lleol. Bydd trwyddedau’n ddilys am dair blynedd. Felly, rhaid i chi sicrhau bod gan y Safleoedd Cymeradwy drwydded sy’n dal i fod yn ddilys ar ddiwrnod eich partneriaeth sifil.