Cost of Living Support Icon

Dogfennau Partneriaeth Sifil

Nid yw’r wybodaeth a ddarperir yma’n esboniad trwyadl o’r Cyfreithiau neu’r Deddfwriaethau Partneriaeth Sifil gyfredol.

 

  • Os ydych chi’n bwriadu cynnal seremoni partneriaeth sifil mewn Swyddfa Gofrestru neu Adeilad Cymeradwy yn Lloegr neu yng Nghymru, tu allan i’r rhanbarth(oedd) lle rydych yn byw, yna mae’n rhaid i chi wneud trefniant ag Arolygydd gweinyddol y Rhanbarth hwnnw cyn y gallwch gyflwyno hysbysiad o bartneriaeth yn eich Swyddfa Gofrestru leol. Mae’n rhaid gwneud hyn i sicrhau bod y Cofrestryddion ar gael.

  • Cyn y gallwch chi gynnal seremoni partneriaeth sifil mewn Swyddfa Gofrestru, Adeilad Cymeradwy yn Lloegr neu yng Nghymru, mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad ffurfiol o’ch bwriad i ffurfio partneriaeth sifil. Rydych yn gwneud hyn drwy ardystio “Hysbysiad o Bartneriaeth Sifil”.

  • Mae’r gyfraith yn mynnu bod rhaid i’r ddau berson sy’n ffurfio partneriaeth sifil gyflwyno hysbysiad o bartneriaeth sifil ar wahân. Rhaid cyflwyno’r hysbysiad yn bersonol i Gofrestrydd Arolygol y Rhanbarth lle mae’r pâr yn byw, ac yn ddymunol dylid eu cyflwyno ar yr un diwrnod.

  • Mae’n rhaid bod y ddau wedi bod yn byw mewn Rhanbarth Gofrestru, yn Lloegr neu yng Nghymru o leiaf 7 diwrnod yn olynol yn union cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad. Os yw un person yn byw yn rhywle arall yn Lloegr a Chymru, am o leiaf 7 niwrnod, rhaid cyflwyno hysbysiad cyffelyb yn Swyddfa Gofrestru’r rhanbarth hwnnw.

  • Unwaith y cyflwynir yr hysbysiadau mae’n rhaid i 15 diwrnod clir fynd heibio cyn y gellir cynnal y seremoni. Unwaith y bydd y 15 diwrnod wedi mynd heibio, mae’n rhaid i’r Cofrestrydd Arolygol gyflwyno awdurdodiadau i bob person cyn y gall y seremoni fynd yn ei blaen.

  • Mae hysbysiadau o bartneriaeth sifil yn ddilys am flwyddyn yn unig a disgwylir i’r parau gyflwyno’u hysbysiadau cyn gynted â’i bod yn gyfreithiol bosib er mwyn trefnu dyddiad.

  • Pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch hysbysiad yng Nghymru, gallwch wneud hynny yn y Saesneg, neu yn y Saesneg ac yn Gymraeg. Os ydych am gyflwyno hysbysiad dwyieithog, mae’n rhaid i’r ddau berson sy’n cyflwyno’r hysbysiad a’r person ag awdurdod y byddwch chi’n ei weld deall Cymraeg. Mae gan bob awdurdod cofrestru yng Nghymru o leiaf un person ag awdurdod neu ddirprwy sy’n siarad Cymraeg.
  • Dylech ganiatáu 30 munud ar gyfer eich apwyntiad cyflwyno hysbysiad.

 

Dogfennau i’w cyflwyno adeg cyflwyno’r hysbysiad

Pan fyddwch chi’n mynd i Swyddfa’r Cofrestrydd i gyflwyno hysbysiad o bartneriaeth sifil, bydd rhaid i chi ddod â’r dogfennau canlynol gyda chi:

  • Disgwylir i bob person gyflwyno dogfennau gyda’u henw a’u cyfenw arnynt. Bydd angen pasbort llawn gyfredol a thystysgrif geni safonol (yr un mawr).  Os nad oes pasbort gennych yna bydd rhaid i chi gyflwyno dwy ddogfen adnabod wreiddiol, sef eich tystysgrif geni safonol (yr un mawr) ynghyd ag un o’r canlynol: trwydded yrru lawn, cerdyn meddygol, hysbysiad cyflog.
  • Rhaid i bob person ddangos tystiolaeth fel bil neu gyfriflen banc gyda’i enw a’i gyfeiriad arno.
  • Rhaid i bersonau sy’n byw dramor ddangos dogfennau adnabod e.e. pasbort, cerdyn adnabod, dogfen deithio’r Swyddfa Gartref.
  • Rhaid i bersonau dan 18 oed gyflwyno dogfen sy’n cynnwys caniatâd ysgrifenedig y rhiant/gwarcheidwad/awdurdod priodol.
  • Rhaid i bersonau sydd wedi ysgaru gyflwyno Archddyfarniad Absoliwt gyda sêl wreiddiol y llys arno. Os digwyddodd yr ysgariad mewn gwlad dramor, yna bydd rhaid cyflwyno’r dogfennau gwreiddiol wedi eu cyfieithu i'r Saesneg os yw hynny’n berthnasol. Bydd raid i rai ysgariadau tramor fynd ger bron y Cofrestrydd Cyffredinol a gwaith y Cofrestrydd Arolygol yw trefnu hyn.
  • Os oes enw wedi cael ei newid drwy Weithred Newid Enw neu Ddatganiad Statudol, yna dylid cyflwyno’r tystysgrifau perthnasol.
  • Nodwch os gwelwch yn dda NAD OES MODD I NI DDERBYN LLUNGOPÏAU O’R DOGFENNAU.

Pobl o dramor

Bydd rhaid i wladolion tramor a’u partneriaid sy’n dymuno ffurfio partneriaeth sifil yn Lloegr a Chymru fynd i Swyddfa Gofrestru Ddynodedig i gyflwyno’u Hysbysiad o Briodas. Bydd rhaid i bersonau sy’n destun rheolau mewnfudo fodloni amodau cymhwyso cyn y gallan nhw briodi, mae’r rhain yn cynnwys:

  • caniatâd a roddwyd yn benodol i’w galluogi i ddod i’r DU i briodi, neu
  • ganiatâd ysgrifenedig ar ffurf Tystysgrif o Gymeradwyaeth oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol neu
  • eu bod yn perthyn i ddosbarth a bennwyd yn arbennig ar gyfer y diben hwn mewn rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol, e.e. bod ganddyn nhw statws sefydlog, fel yr hawl i aros yn y wlad cyn hired ag y maen nhw’n dymuno.

Nid yw Gwladolion Prydain, Ardal Economaidd Ewrop, y Swistir a phobl a chanddynt dystysgrif sy’n rhoi iddyn nhw'r hawl i breswylio yn y wlad, diplomyddion/aelodau’r lluoedd arfog sy’n ymweld â’r wlad a chynrychiolwyr y Cenhedloedd Unedig a sefydliadau cenedlaethol eraill yn destun rheoliadau mewnfudo.

 

Os ydych chi o’r farn bod y newidiadau hyn effeithio arnoch chi, cysylltwch â’r Swyddfa Gartref drwy ffonio 0870 606 7766, i wneud yn siŵr fod y dogfennau cywir gennych. Ffoniwch eich Swyddfa Gofrestru leol i holi ble mae’ch Swyddfa Gofrestru Ddynodedig agosaf. (Nodwch nad oes gennym Swyddfa Gofrestru Ddynodedig ym Mro Morgannwg).