Cost of Living Support Icon

Hanes Teuluol

Gwybodaeth am ddulliau a ffynonellau ymchwil a chanllawiau i hel achau

 

Mae sawl ffordd i ddechrau ar y siwrnai at ddod o hyd i’ch achres. Un o’r pethau mwyaf defnyddiol yw holi aelodau hynaf y teulu. Maen nhw’n ffynhonnell werthfawr o wybodaeth, ac felly hefyd Beibl y teulu, casgliadau o ffotograffau, dyddiaduron a thoriadau papur newydd o’r cyfnod perthnasol.

 

Dim ond 1837 ymlaen y cofnodwyd genedigaethau, priodasau a marwolaethau gan y llywodraeth - yr enw ar hyn yw Cofrestriad Dinesig. I chwilio achresi eich teulu o’r canrifoedd cyn hynny, bydd angen i chi ddarllen Cofrestrau Plwyf a Ffurflenni Cyfrifiad.


Y Cyfrifiad

Cofnod manwl yw ffurflenni’r cyfrifiad, sy’n nodi pawb sy’n byw ym mhob tŷ ym mhob stryd, a chaiff y wybodaeth ei chasglu pob deng mlynedd.

 

 

Y Cyfrifiad


Cofrestr y Plwyf

Mae cofrestrau’r plwyf yn cadw cofnodion o Fedyddiadau, Priodasau a Chladdedigaethau, ac mae rhai ohonynt wedi goroesi er 1538. 

 

 

Cofrestr y Plwyf


Cofnodion

Mae Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg yn cadw cofnod o bob genedigaeth, priodas a marwolaeth sydd wedi digwydd yn y dalgylch hwn o 1837 ymlaen. 

 

Cofnodion

Birth-Certificate

Tystysgrifau Geni, Priodas a Marwolaeth

Mae tystysgrifau geni’n lle da i ddechrau chwilio am eich achresi. Os mai prin yw’r wybodaeth sydd gennych am eich rhieni, gallwch ddechrau gyda’ch tystysgrif eich hun.

 

Gall tystysgrifau priodas fod yn ffynhonnell well fyth, am eu bod yn dangos enwau a swyddi’r tadau yn ogystal â’r pâr sy’n priodi.

 

Mae pob tystysgrif geni, priodas a marwolaeth (copïau cyflawn o gofnod cofrestr) yn gopi union o’r manylion a gofnodwyd yn y gofrestr.

 

CAIS AM DYSTYSGRIF GENI, PRIODAS, MARWOLAETH

 

Tystysgrif Geni Safonol:

  • Enw a dyddiad geni
  • Enw llawn a chenedl y plentyn
  • Enw’r ddau riant (os cofnodwyd nhw yn y gofrestr)
  • Cyfeiriad y rhiant/rhieni
  • Enw mam y plentyn cyn iddi briodi (os yn berthnasol)

Tystysgrif Priodas:

  • Dyddiad a lleoliad y briodas 
  • Enwau’r priodfab a’r briodferch
  • Oed a swyddi’r ddau berson a briododd
  • Cyfeiriad y ddau ar adeg y briodas
  • Enw, cyfenw a swydd tadau’r ddau (os cofnodwyd nhw yn y gofrestr)

Tystysgrif Marwolaeth:

  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • Enw’r ymadawedig cyn priodi (os yn berthnasol)
  • Naill ai’r oed pan fu farw neu’r dyddiad a’r man geni
  • Achos y farwolaeth
  • Y swydd olaf a ddaliwyd a chyfeiriad yr ymadawedig (os mai benyw briod neu weddw yw hi, enw a chyfenw ei gŵr)
  • Enw a chyfeiriad yr unigolyn a gofrestrodd y farwolaeth, yn cynnwys eu perthynas â’r ymadawedig