Cost of Living Support Icon

Gwrthderfysgaeth

CONTEST yw strategaeth Llywodraeth y DU i leihau'r risg o derfysgaeth

 

Mae ganddi bedair prif ran: Atal, Cymryd Camau, Diogelu a Pharatoi. Y nod yw lleihau'r tebygolrwydd o derfysgaeth fel y gall pobl fyw'n ddiogel a heb bryder.

Cyfeirir at CONTEST hefyd fel y "Pedwar P" yn Saesneg, ac mae’n cynnwys:

1.  Atal (Prevent)

Atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth drwy:

  • Herio ideolegau eithafol

  • Helpu pobl sydd mewn perygl

  • Gweithio gydag ysgolion, meddygon, a grwpiau ffydd

Prevent: Mwy o wybodaeth


2.  Cymryd camau (Pursue)

Canfod, ymchwilio ac amharu ar ymosodiadau terfysgol drw: 

  • Ddefnyddio gwybodaeth a deallusrwydd

  • Arestio a chyhuddo pobl dan amheuaeth

  • Gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol

3.  Amddiffyn (Protect)

Cryfhau ein hamddiffyniad rhag ymosodiadau terfysgol drwy:

  • Ddiogelu ffiniau, seilwaith a mannau cyhoeddus

  • Gwella seiberddiogelwch

  • Gwella diogelwch trafnidiaeth a digwyddiadau

4.  Paratoi (Prepare)

Lliniaru effaith ymosodiadau terfysgol na ellir eu hatal drwy: 

  • Meithrin galluoedd ymateb brys

  • Helpu dioddefwyr a chymunedau

  • Gwneud yn siŵr bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithio

Prepare: Mwy o wybodaeth

Beth sy'n newydd yn Adolygiad 2023: 

  • Mwy o bwyslais ar syniadau eithafol, gan gynnwys eithafiaeth dde eithafol ac Islamaidd

  • Defnyddio mwy o ddata ac offer digidol i ddod o hyd i fygythiadau ac ymateb iddynt

  • Pwyslais ar bartneriaethau amlasiantaethol ar lefelau lleol