Cost of Living Support Icon

Gwrthderfysgaeth - Atal

Bydd Strategaeth Gwrthderfysgaeth y Llywodraeth a gyhoeddwyd yn 2023 yn parhau i gael ei threfnu o gwmpas pedair ffrwd waith, pob un yn cynnwys nifer o amcanion allweddol:

  • Cymryd camau: Atal ymosodiadau terfysgo 

  • Atal: Atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth

  • Amddiffyn: Cryfhau ein hamddiffynfeydd rhag bygythiadau terfysgol

  • Paratoi: Lleihau effaith ymosodiad terfysgol gymaint â phosib 

Atal (Prevent)

Y Bartneriaeth Bro Diogelach sy’n rheoli'r Strategaeth Prevent. Ei nod yw lleihau bygythiad terfysgaeth yn y DU drwy atal unigolion rhag troi at derfysgaeth neu gynorthwyo terfysgaeth.

 

Mae'r strategaeth Prevent yn cwmpasu pob math o derfysgaeth, gan ganolbwyntio ar flaenoriaeth bygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol. Bydd adnoddau yn cael eu dyrannu yn seiliedig ar y bygythiadau hyn. Mae gan y strategaeth dri phrif amcan:

 

  1. Mynd i'r afael â'r her ideolegol o derfysgaeth a'i gefnogwyr
  2. Helpu i atal unigolion rhag cael eu denu i derfysgaeth a darparu cymorth angenrheidiol
  3. Gweithio gyda sectorau sy'n agored i radicaleiddio.

Channel

Mae Channel yn rhan hanfodol o’r strategaeth Prevent. Mae'n nodi ac yn cefnogi unigolion sydd mewn perygl o derfysgaeth drwy ddull amlasiantaethol.

 

Mae'r rhaglen hon yn darparu cymorth cynnar i'r rhai a allai gael eu denu i derfysgaeth drwy system atgyfeirio. Mae pob achos yn cael ei asesu ac, os yw'n briodol, ei anfon i Channel. Mae’r broses yn cynnwys:

  • Nodi unigolion sydd mewn perygl

  • Asesu natur a graddau’r risg honno

  • Creu cynlluniau cymorth wedi'u teilwra ar gyfer y rhai dan sylw

Panel Channel

Sefydlwyd Panel Channel ym mis Medi 2015.

 

Mae'n cynnwys aelodau o Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, y Gwasanaethau Prawf Cenedlaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd Meddwl, Tai, Addysg, Gwasanaethau Ieuenctid, Mewnfudo, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chymorth Cynnar, ac Iechyd.

Gweithdy i Godi Ymwybyddiaeth o Atal

Mae'r Gweithdy i Godi Ymwybyddiaeth o Prevent yn cyflwyno'r strategaeth Prevent, gan bwysleisio cymorth i unigolion agored i niwed.

 

Ei nod yw codi ymwybyddiaeth heb achosi pryder ac mae’n cysylltu cefnogaeth â mentrau diogelu ehangach.