Cost of Living Support Icon

Gwrthderfysgaeth - Paratoi

Bydd Strategaeth Gwrthderfysgaeth y Llywodraeth a gyhoeddwyd yn 2023 yn parhau i gael ei threfnu o gwmpas pedair ffrwd waith, pob un yn cynnwys nifer o amcanion allweddol:

  • Cymryd camau: Atal ymosodiadau terfysgo 

  • Atal: Atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth

  • Amddiffyn: Cryfhau ein hamddiffynfeydd rhag bygythiadau terfysgol

  • Paratoi: Lleihau effaith ymosodiad terfysgol gymaint â phosib 

Paratoi (Prepare)

Ystyr Paratoi yw paratoi rhag ofn y bydd ymosodiad terfysgol yn digwydd, fel bod y difrod yn cael ei leihau ac mae pobl yn cael eu cadw'n ddiogel.

  • Cynlluniau argyfwng: Gwneud yn siŵr bod gwasanaethau’r heddlu, ambiwlans, a thân, ac eraill yn gwybod beth i'w wneud os bydd ymosodiad

  • Hyfforddiant ac ymarfer: Cynnal driliau ac ymarferion fel bod pawb yn barod i ymateb yn gyflym

  • Helpu dioddefwyr: Gwneud yn siŵr bod cymorth i bobl y mae ymosodiad yn effeithio arnyn

  • Cadw pethau’n rhedeg: Gwneud yn siŵr bod gwasanaethau pwysig (fel ysbytai, trafnidiaeth, a thrydan) yn gallu parhau i weithredu yn dilyn ymosodiad