Cost of Living Support Icon

Y Cyfrifiad

Bob deng mlynedd, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnal cyfrifiad i ddarganfod gwybodaeth bellach am y bobl sy’n byw yng Nghymru a Lloegr, a chyfansoddiad cymdogaethau lleol.   

 

Mae’r cyfrifiad yn gofyn am fanylion gwaith, iechyd, hunaniaeth genedlaethol, dinasyddiaeth, cefndir ethnig, crefydd, statws priodasol ac yn y blaen. Defnyddir yr ystadegau yma i greu darlun o gymdeithas heddiw.

 

Mae’r rhan fwyaf o’r cartrefi yn y wlad wedi dychwelyd eu holiaduron, ac mae gweithwyr maes wedi bod yn cnocio ar ddrysau i gynnig cymorth a chasglu holiaduron gan y sawl sydd ar ei hôl hi.

 

Fel pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, mae Cyngor Bro Morgannwg yn dibynnu ar ystadegau poblogaeth y cyfrifiad i hawlio’r cyllid sydd ei angen arnon ni am wasanaethau cyhoeddus. Mae’r swm rydyn ni’n ei dderbyn yn uniongyrchol gysylltiedig â faint o bobl a’r math o bobl mae’r cyfrifiad yn dangos sy’n byw yn ein hardal. Felly hyd yn oed petai’r cyfrifiad ond ychydig gartrefi’n brin, gallai wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Mae angen i’r cyfrifiad gynnwys pawb, ym mhob man – a dyna pam mae’n rhaid i bawb gymryd rhan ynddo.

 

www.census.gov.uk