Gwirio Dalgylch eich Ysgol
O fewn y Cyngor, mae gan bob ysgol ardal y maent yn draddodiadol yn gwasanaethu o'r enw Dalgylch Ysgol.
Gwirio dalgylch eich ysgol drwy ddefnyddio eich cod post:
Mae gofyn i rieni ddweud pa ysgol yr hoffent i’w plentyn fynd iddi, hyd yn oed os mai ysgol y dalgylch yw hi. Oherwydd hyn, ni fydd hawl awtomatig gan ddisgyblion sy’n byw mewn dalgylch a ddiffiniwyd i fynd i’r ysgol honno. Rhaid cyflwyno cais ffurfiol.
Nodwch: Gallai methiant i wneud cais erbyn y dyddiad cau olygu gwrthod cais rhai rhieni / cynhalwyr am le yn yr ysgol leol /ddethol. Os bydd y galw’n uwch na’r nifer o leoedd sydd ar gael, bydd blaenoriaeth i blant y dalgylch bob tro. Fodd bynnag, nid oes gwarant y caiff plentyn fynd i’r ysgol ddethol.