Cost of Living Support Icon
​

Cyflogi Cynorthwywyr Personol (CP)

Os ydych chi'n dewis cyflogi CP gan ddefnyddio eich Taliad Uniongyrchol, mae rhai pethau i'w hystyried. Mae gofynion cyfreithiol ac arfer da cyffredinol i gadw atynt, megis:

 

  • Cadw cofnodion
  • Defnyddio’r gyflogres a darparu pensiynau lle bo'n berthnasol
  • Darparu tâl gwyliau a chadw cofnod parhaus o hyn
  • Sicrhau bod yswiriant cyflogwyr ac atebolrwydd cyhoeddus ar waith
  • Arferion recriwtio diogel e.e. gwiriadau hawl i weithio a gwiriadau GDG
  • Iechyd a diogelwch
  • Mynediad at hyfforddiant
  • Darparu contractau cyflogaeth

Gall eich cynghorydd Taliadau Uniongyrchol eich helpu gyda hyn i gyd. Maen nhw gyda chi ar bob cam i ddarparu cymorth wrth i chi ddod yn gyflogwr. 

 

Gallwch siarad â chynghorydd a darganfod mwy ar:

 

  • 01443 827930

 

Hyfforddiant 

Fel y cyflogwr bydd angen i chi nodi beth yw'r anghenion hyfforddi ar gyfer y CP. Ar ôl eu nodi, gellir cwblhau'r cyrsiau drwy'r dolenni isod.

 

Modiwlau Dysgu Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Rhaglenni Hyfforddi Gofalwn Cymru

 

Os na allwch ddod o hyd i hyfforddiant sy'n addas i'ch anghenion, ffoniwch y tîm Taliadau Uniongyrchol i helpu i drefnu hyfforddiant:

 

  •  01446 704203