Cost of Living Support Icon

Beth yw Cynorthwyydd Personol?

Mae Cynorthwyydd Personol yn helpu rhywun sydd angen cymorth i gyrraedd ei nodau. Mae'r person hwn yn cael ei ddewis gan yr unigolyn. Maen nhw'n meithrin ymddiriedaeth dros amser. Mae'r rôl yn amrywio ac yn cael ei defnyddio i ddiwallu anghenion y cyflogwr.

 

Enghreifftiau o Gymorth Cynorthwyydd Personol:

  • Cymorth gyda bywyd bob dydd
  • Help i gael mynediad at wasanaethau, fel gweithgareddau hamdden a chymdeithasol
  • Hyrwyddo annibyniaeth a meithrin sgiliau, fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Cynorthwyo'r cyflogwr i gyflawni’r nodau yn ei gynllun gofal
  • Helpu dinasyddion i gyflawni eu nodau a gwella ansawdd eu bywyd

Beth yw manteision bod yn gynorthwyydd personol?

Mae Cynorthwywyr Personol yn mwynhau buddion amrywiol, fel gwyliau blynyddol, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb salwch, a mynediad i gynllun pensiwn. Mae'r rôl yn aml yn cynnig hyblygrwydd, sy'n gydfuddiannol. Mae'n werth chweil ac yn helpu pobl i aros yn annibynnol.

 

Cewch mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon:

 

Cymorth Cynorthwyydd Personol CBA Dewis

 

Oes angen unrhyw brofiad blaenorol?

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, er efallai y byddai'n well ar gyfer rhai rolau cymhleth. Os oes gennych y rhinweddau cywir ac yn dymuno helpu eraill i fyw bywydau boddhaus, rydym yn eich annog i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth neu i wneud cais. Mae hyfforddiant ar gael ar gais.

 

Sut a ble i wneud cais?

Mae swyddi gwag ar gyfer cynorthwywyr personol ym Mro Morgannwg yn cael eu hysbysebu drwy ein sefydliad cymorth, CBA Dewis. Gallwch weld hysbysebion swydd ar eu gwefan.

 

Swyddi Gwag CBA Dewis

 

Gallwch hefyd ddilyn CBA Dewis ar Facebook am ddiweddariadau ar swyddi a newyddion arall: