Cost of Living Support Icon

Beth yw Taliadau Uniongyrchol?

Taliadau uniongyrchol yw taliadau a wneir i bobl a fyddai'n gymwys i dderbyn gwasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhaid i awdurdodau lleol gynnig Taliadau Uniongyrchol am wasanaethau gofal a chymorth ar ôl iddynt asesu anghenion.

 

Bydd taliadau uniongyrchol fel arfer yn cael eu cynnig i bawb sy'n gymwys ac sy’n cael eu hasesu fel rhai sydd angen gwasanaeth.  Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn defnyddio taliadau uniongyrchol i helpu pobl i gael dewis a rheolaeth yn eu bywydau. Mae hyn yn rhoi dewis arall iddyn nhw yn lle gwasanaethau gofal cymdeithasol gan Gyngor Bro Morgannwg. 

 

Caiff taliadau eu gwneud yn uniongyrchol i berson neu ei gynrychiolydd e.e. Person Addas. Maen nhw'n defnyddio'r arian i sefydlu eu gofal neu gymorth eu hunain. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw ddewis pwy sy'n rhoi'r gefnogaeth, yn ogystal â phryd a ble mae'n digwydd. 

 

Nid yw taliadau uniongyrchol yn fath o incwm. Caiff taliad uniongyrchol ei darparu i alluogi unigolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys, neu ofalwr person sydd ag anghenion gofal a chymorth, i gyflawni ei ganlyniadau lles sydd wedi’u nodi yn ei gynllun gofal a chymorth. Maent wedi'u dylunio i roi mwy o gymorth a rheolaeth i unigolion dros eu gofal a'u cymorth. Gall fod amgylchiadau (oherwydd pryderon diogelu neu os oes risg o dwyll yn bresennol) lle na fyddai taliadau uniongyrchol yn cael eu hystyried yn briodol.

 

Gallwch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol mewn sawl ffordd.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis cyflogi Cynorthwyydd Personol (CP) fodd bynnag, nid dyma'r unig ffordd y gellir eu defnyddio. Efallai y byddwch yn penderfynu contractio'n breifat gydag asiantaeth, mewn contract gyda microfenter, neu fynychu gwasanaethau dydd. 

 

 

Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Bro Morgannwg yn ystyried darparu taliadau uniongyrchol tuag at gost diwallu anghenion cymwys unigolyn am ofal a chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

  • Adran 50 – i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn
  • Adran 51 – i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn
  • Adran 52 – i ddiwallu anghenion cymorth gofalwr di-dâl

 

Mae'n rhaid i ni gynnig taliadau uniongyrchol i unigolyn i ddiwallu rhai neu bob un o'i anghenion asesedig cymwys yn yr achosion canlynol: 

  •  Rydym yn fodlon bod taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion.
  • Mae gan yr unigolyn y galluedd meddyliol a gall reoli taliad uniongyrchol, naill ai ar ei ben ei hun neu gyda chymorth. 
  • Nid oes gan yr unigolyn alluedd meddyliol priodol, ond mae person addas wedi'i benodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i wneud penderfyniadau ar ei ran. Pan fo'r gwasanaeth(au) yn cael ei brynu/eu prynu drwy daliadau uniongyrchol, mae’n rhaid i ni fod yn fodlon bod y gwasanaeth a ddarperir yn diwallu anghenion y person a aseswyd yn effeithiol os yw'n 18 oed neu'n hŷn neu, pan fo'r gwasanaeth ar gyfer plentyn sydd angen gofal a chymorth, rydym yn fodlon bod y gwasanaeth yn diogelu lles y plentyn. 

Dim ond yn yr achosion canlynol y bydd taliadau uniongyrchol yn cael eu darparu:  

  • Mae'r unigolyn yn cytuno i ddefnyddio'r arian i sicrhau gwasanaethau wedi’u nodi yn ei Gynllun Gofal a Chymorth yn unig. 
  • Os yw'r unigolyn yn 18 oed neu'n hŷn, mae wedi cyflwyno digon o wybodaeth i ganiatáu i asesiad ariannol gael ei gwblhau, i benderfynu a oes angen iddo gyfrannu at gostau. Os yw'r unigolyn yn 18 oed neu'n hŷn, mae’n cytuno i dalu unrhyw gyfraniad a aseswyd i'r cyfrif taliadau uniongyrchol.

Eithriadau:

  • Gallwn wrthod taliadau uniongyrchol i unrhyw un o dan amodau llys penodol. Caiff hyn ei esbonio yn Rheoliad 14 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015. 
  • Mae Adran 47 Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn atal awdurdodau lleol rhag diwallu anghenion gyda gofal iechyd. Dim ond os yw'n achlysurol y caniateir gofal iechyd, sy'n golygu ei fod yn rhan fach o weithred arall, neu'n ategol, sy'n golygu ei fod yn cefnogi prif weithgareddau sy'n diwallu anghenion dinesydd. O ganlyniad, mae cyfyngiad o'r fath yn berthnasol i ddarparu taliad uniongyrchol. 
  • Nid ydym yn gallu cynnig taliadau uniongyrchol i ofalwyr maeth.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau darganfod mwy am Daliadau Uniongyrchol?

Er mwyn i chi gael Taliad Uniongyrchol, bydd angen asesiad o'ch anghenion gofal. Os oes gweithiwr cymdeithasol wedi’i neilltuo i chi, cysylltwch ag ef/â hi yn uniongyrchol. Os nad oes, ffoniwch y ganolfan gyswllt, Cyswllt Un Fro ar 01446 700111.

 

Gwybodaeth gyswllt tîm Taliadau Uniongyrchol

E-bostiwch y tîm Taliadau Uniongyrchol yn:

 

 

Aelodau’r Tîm

  • Louis Burrows – Swyddog Datblygu Taliadau Uniongyrchol – 01446 704203
  • Dawn Hayman – Gweinyddwr Taliadau Uniongyrchol – 07870608865
  • Emma Langford – Gweinyddwr Taliadau Uniongyrchol – 07759132044

Sylwadau gan y rhai sy’n derbyn Taliad Uniongyrchol eisoes:

"Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth, mae bywyd fy mam yn sicr wedi ei wella'n ddramatig drwy allu aros gartref a heb eich cymorth ni fyddai hyn yn bosibl."