Prif bobl gyswllt
Dyma’r nifer fach o bobl benodol, er enghraifft, aelodau’r teulu neu ffrindiau, sydd ag allwedd i’r tŷ, neu sy’n gwybod rhif cod y system fynediad i’r bocs diogelwch ar y wal tu allan lle cedwir allwedd wrth gefn.
Os oes angen cymorth arnoch mewn argyfwng, bydd y teleffonydd yn siarad â chi drwy’r uchelseinydd yn yr uned gartref, a bydd yn medru eich clywed drwy’r meicroffon pwerus er mwyn deall y rheswm dros yr alwad. Bydd e neu hi hefyd yn cyfeirio at y wybodaeth bersonol rydych chi wedi ei rhoi i ni er mwyn penderfynu sut i weithredu orau yn y sefyllfa gyfredol.
Hyd yn oed os na all y teleffonydd eich clywed, neu rydych chi’n medru ateb, bydd yn anfon help. Bydd yn cysylltu â meddyg brys, criw ambiwlans, y gwasanaeth tân neu’r heddlu ac yn rhoi mynediad iddynt. Bydd y teleffonydd hefyd yn cysylltu â’ch prif bobl gyswllt os nad oes angen y gwasanaethau argyfwng, i’w hysbysu o’r sefyllfa, neu os oes angen iddyn nhw roi mynediad i’r tŷ i rywun arall.
(Os oes arnoch angen y Gwasanaeth Tân neu’r heddlu ac rydych chi’n medru cyrraedd y ffôn, rydyn ni’n argymell i chi gysylltu â nhw gyntaf ac yna ffonio Gwasanaeth Larwm TeleV.)