Cost of Living Support Icon

Cenhadon Hawliau’r Fro

Mae Llysgenhadon Hawliau’r Fro yn brosiect ieuenctid mynediad agored sirol sy’n codi ymwybyddiaeth o hawliau plant.

 

Mae’r grŵp yn rhan o gynllun Cenhadon Cymunedol Comisiynydd Plant Cymru.

 

Rights-Ambassadors-logoLleoliad y Brif Swyddfa: Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri, CF63 4Ru

 

Mae project Cenhadon Hawliau’n codi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc 

 

Mae’r project yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc i wneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned leol. Mae ein Cenhadon Hawliau yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy o ran cyfathrebu a siarad yn gyhoeddus yn ogystal â chynllunio, datrys problemau a threfnu.

 

Mae Cenhadon Hawliau’r Fro yn gweithio fel Cenhadon Cymunedol ar ran Comisiynydd Plant Cymru.  Plant a phobl ifanc sy'n rhan o grŵp diddordeb arbennig ac sydd wedi gwirfoddoli i fod yn genhadon ar ran Comisiynydd Plant Cymru i fwydo ei gwaith yw Cenhadon Cymunedol. Rydym hefyd yn cefnogi cynlluniau Llysgenhadon Uwchradd a Gwych yn y Fro.

 

Yr hyn rydym yn ei wneud: 

  • Cefnogi pobl ifanc gyda’r gwaith o ddatblygu a chynnal gweithdai a chyflwyniadau i godi ymwybyddiaeth o’r CCUHP a’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.
  • Helpu pobl ifanc i gwblhau Cenhadaeth Hawliau bob tymor yn rhan o’u gwaith Cenhadon Cymunedol ar ran y Comisiynydd Plant.
  • Annog ysgolion ym mhob rhan o’r awdurdod lleol i gymryd rhan yng nghynlluniau Llysgenhadon Myfyrwyr a Llysgenhadon Gwych y Comisiynydd Plant.
  • Creu amgylchedd dysgu anffurfiol lle y gall pobl ifanc gyflawni ystod o ganlyniadau achrededig ac nad ydynt yn achrededig yn ogystal â'r gwobrwyo am eu horiau gwirfoddoli. 

 

 

Dyma’r hyn sydd wedi ei gyflawni’r flwyddyn ddiwethaf hon:

Dyma ein fideo Cenhadon Hawliau’r Fro 2022/2023 syn arddangos cyflawniadU pobl ifanc wrth godi ymwybyddiaeth o CCHUP ar hawliau plant:

 

Cysylltu â Ni 

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch chi am y tîm neu’r cynlluniau, cysylltwch â Michaela O'Neill: 

  • 01446 709308 / 07955 433444

Social Media

Follow the Vale Youth Service on Facebook and Twitter and share your photos and experiences on our social media: