Cost of Living Support Icon

Ei Llais Cymru 

Lansiwyd y prosiect Ei Llais Cymru ym mis Tachwedd 2021 ac mae’n cael ei reoli gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro mewn partneriaeth â Champions of Wales.

Prif Leoliad: Hyb YMCA y Barri

 

Her Voice Logo

Grŵp merched ar gyfer pob person ifanc 11-18 oed ar draws y sir yw Ei Llais Cymru.  Mae’r grŵp yn cwrdd ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis.  Nod y rhaglen hon yw cefnogi pobl ifanc i feithrin y sgiliau a'r hyder i fod yn hyrwyddwyr cydraddoldeb yn eu cymunedau eu hunain, gan eu grymuso i newid canfyddiadau ac agweddau ynghylch merched fel y gall merched fyw heb anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.  

 

Mae'r grŵp wrthi'n edrych ar ddiogelwch yn y gymuned leol ac maen nhw wedi lansio ymgyrch #WEDONTFEELSAFE.  Maent yn gweithio mewn partneriaeth â Plan International UK fel rhan o'u Grant Gwneuthurwyr Newid Ifanc llwyddiannus.

 

 

What We Do:

 

  • Hwyluso cyfarfodydd misol sy'n darparu gofod diogel lle gall merched ifanc rannu eu meddyliau, eu pryderon, eu barn a'u safbwyntiau’n rhydd trwy drafodaethau agored.

  • Grymuso pobl ifanc i weithredu.

  • Cefnogi’r bobl ifanc i fynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â rhywedd yn eu hysgolion a'u cymuned mewn ffordd briodol.

  • Rhoi cyfle dysgu anffurfiol i ehangu sgiliau a gwybodaeth gan gynnig y posibilrwydd o dderbyn hyfforddiant achrededig.

  • Annog ysgolion a gweithwyr proffesiynol o fewn y gymuned i gefnogi gwaith ac ymgyrchoedd Ei Llais Cymru.

 

Mae aelodau Ei Llais Cymru wedi cynnal ymgyrch o'r enw #NidYdymYnTeimlonDdiogel, oedd yn ceisio tynnu sylw at ba mor ddiogel yr oedd pobl ifanc yn teimlo ym Mro Morgannwg. 

 

Fel rhan o'u hymgyrch, maent wedi hyrwyddo cynlluniau Llefydd Diogel i weld busnesau lleol yn cofrestru i ddod yn llefydd diogel.

 

Mae aelodau Ei Llais Cymru hefyd wedi creu posteri i godi ymwybyddiaeth o'r broses adrodd am aflonyddu rhywiol ac aflonyddu stryd. 

 

Posteri Ei Llais Cymru

 

 

 

 


 

Cysylltwch â Ni

Os oes angen mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Michaela O’Neill:

 

  • 07955433444 

 

 

 


 

Cyfryngau Cymdeithasol 

Dilynwch ni a rhannwch eich profiad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol: