Cost of Living Support Icon

Cyngor Ieuenctid y Fro

Mae Cyngor Ieuenctid y Fro yn brosiect cyfranogiad mynediad agored sy'n galluogi pobl ifanc 11-25 oed o Fro Morgannwg i leisio eu barn ar faterion y cyngor.

 

Mae'r prosiect hwn yn rhoi llwyfan i bobl ifanc weithio ar y materion sy'n bwysig iddyn nhw.  Fel aelod o'r cyngor ieuenctid, mae pobl ifanc yn cynrychioli eu cyfoedion ac yn eirioli dros newid cadarnhaol a hawliau plant ledled Bro Morgannwg.  Mae'r prosiect yn rhoi lle i bobl ifanc nid yn unig roi eu mewnbwn ar bynciau sy'n bwysig ond hefyd i sicrhau bod meddyliau a barn pobl ifanc yn cael eu codi gyda Chyngor Bro Morgannwg. 

Vale Youth Council Logo

 

Gwybodaeth Hanfodol

  • Mae’r Cyngor Ieuenctid yn cyfarfod ar ddydd Mercher olaf bob mis yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri. 

  • Mae'r pwyntiau trafod a'r blaenoriaethau presennol yn cynnwys: Cymorth Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc, Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd, Cymorth addysgu. 

Yr Hyn Rydym yn ei Wneud

  • Rhoi grym i bobl ifanc weithredu i wella cyfleusterau lleol ac ar draws y Fro fel parciau a gwasanaethau ieuenctid.

  • Trefnu diwrnodau meithrin tîm a phenwythnosau preswyl.

  • Cynnig hyfforddiant achrededig ar gyfer yr holl aelodau a gydnabyddir gan golegau, prifysgolion a chyflogeion.

  • Enable members to receive recognition for their volunteering hours.

 

Cysylltwch â ni 

Os hoffech fod yn rhan o lunio dyfodol Bro Morgannwg, cysylltwch ag Alex Thomas

 

  • 01446 709308 / 07874889383

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch ni a rhannwch eich profiad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol: