Cost of Living Support Icon

POLISI CYFARFODYDD AML-LEOLIAD CYNGOR BRO MORGANNWG

 

Mae’r Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad wedi’i baratoi gan ystyried Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a’r Canllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfarfodydd aml-leoliad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2023 ac a ddiwygiwyd ym mis Awst 2023.

 

Mae’r Polisi hwn yn ychwanegol at Weithdrefnau Cyfarfodydd o Bell y Cyngor a Rheolau Gweithdrefn y Cyngor fel y’u cynhwysir yng Nghyfansoddiad y Cyngor.