Cost of Living Support Icon

 

AELODAU PANEL APELIADAU DERBYNIADAU A GWAHARDDIADAU YSGOLION

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn dymuno penodi pobl i wasanaethu ar ei Baneli Apeliadau Ysgol.  Mae’r Paneli Apeliadau Addysg yn dyfarnu ar Apeliadau gan rieni yn erbyn penderfyniadau a wneir gan yr Awdurdod Lleol sy’n perthyn i dderbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion.  Mae’n rhaid i bob Panel gynnwys:

 

  • O leiaf un Aelod Lleyg:

-       Mae hyn yn golygu pobl sydd heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol.  Caniateid pobl sydd â phrofiad mewn addysg mewn rôl wirfoddol neu fel Llywodraethwr.  

  • O leiaf un Aelod nad yw’n Lleyg (Aelod Addysg);

-       Mae hyn yn golygu person sydd â phrofiad ym maes addysg sy’n gyfarwydd ag amodau addysgol yn ardal Bro Morgannwg, neu sy’n rhiant i ddisgybl sydd wedi’i gofrestru mewn ysgol arall.  

 

Rydym yn bwriadu recriwtio i swyddi Aelodau Lleyg ac Addysg. Nid yw Aelodau’r Panel yn derbyn tâl am fod ar y Panel, er y caiff treuliau teithio eu had-dalu a darperir lluniaeth.  Bydd nifer yr Apeliadau y bydd Aelodau’n eu mynychu yn ystod y flwyddyn yn dibynnu ar eu hargaeledd a'u hymrwymiadau personol.  Bydd gwrandawiadau’n cael eu cynnal yn ystod y dydd rhwng 9.00 a 5.00 pm. Ar ddyddiau Llun i ddyddiau Gwener fel arfer, naill ai'n wrandawiadau hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan.  

 

Caiff hyfforddiant llawn ei ddarparu i Aelodau newydd ac mae Clerc ar gael bob amser i ddarparu cyngor ar weithdrefnau.  

 

Y sgiliau rydym yn chwilio amdanynt:

 

  • Y gallu i wrando’n ddiduedd ac arfarnu dadleuon a thystiolaeth a ddarperir ar y ddwy ochr;
  • Pendantrwydd – gwneir penderfyniadau ar apeliadau yn fuan ar ôl y gwrandawiad;
  • Hyblygrwydd – Fel arfer clywir apeliadau yn ystod dyddiau gwaith, gofynnir i chi bob amser a fyddwch chi ar gael cyn trefnu gwrandawiad Apêl.

 

Ni fydd gennych hawl i gael eich penodi fel Aelod o'r Panel os ydych:

  • Yn aelod o’r Awdurdod Lleol (ALl) (e.e.) Cynghorwyr), neu o Gorff Llywodraethu’r ysgol dan sylw.
  • Unrhyw un, heblaw am athro ysgol arall, a gyflogir gan yr ALl neu gan y Corff Llywodraethu.
  • Unrhyw berson sydd wedi cael, neu sydd erioed wedi cael unrhyw gysylltiad gyda’r ALl neu’r ysgol (e.e. cyn aelodau o’r Corff Llywodraethu), neu ag unrhyw aelod neu gyflogai o'r ALl neu'r Corff Llywodraethol fel y gellid codi amheuon yn rhesymol am ei allu neu ei gallu i weithredu’n ddiduedd parthed yr ALl neu’r ysgol.  Nid yw cyflogaeth fel athro gan yr ALl ynddi ei hun yn rheswm dros anghymhwyso rhywun rhag aelodaeth – heblaw bod rheswm arall i gwestiynau ei allu i weithredu mewn ffordd ddiduedd.
  • Unrhyw berson oedd yn rhan o, neu a gymerodd ran mewn, unrhyw drafodaethau parthed y penderfyniad i beidio â derbyn y plentyn neu’r person ifanc sy'n destun yr apêl.

 

Os oes diddordeb gennych mewn bod yn Aelod Panel gweler y ffurflen gais

 

Cais am Benodiad yn Aelod o'r Panel (fersiwn Word)

Cais am Benodiad yn Aelod o'r Panel (fersiwn PDF)

 

Fodd bynnag os dymunwch drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â Gwasanaethau Democrataidd isod ar y manylion cyswllt iso :

 

Gwasanaethau Democrataidd

Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU

            E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

            Ffôn: (01446) 709856