Cost of Living Support Icon

Pwyllgorau ar y Cyd, Grwpiau Eraill a Fforwm

Mae'r Cyngor hefyd yn aelod o nifer o Bwyllgorau ar y cyd ochr yn ochr â Chyrff Cyhoeddus eraill, gyda rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael isod.

  • Maes Awyr Caerdydd Pwyllgor Ymgynghoro

     Dysgwch fwy am gyfarfodydd Pwyllgor Ymgynghorol Maes Awyr Caerdydd

     

    Ewch i Wefan

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Edward Williams 

  •  Bargen Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

    Dysgwch fwy am gofnodion, adroddiadau ac agendâu ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

     

    Ewch i Wefan

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Lis Burnett  

  •  Craffu ar y Cyd ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdudd

     Dysgwch fwy am Gydbwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd [a weinyddir gynt gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr] [a weinyddir bellach gan Rondda Cynon Taf - Gorffennaf 2021

     

    Ewch i Wefan

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Susan Lloyd-Selby

  •  Cydbwyllgor Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De

     Mae Consortiwm Canolbarth y De wedi'i sefydlu i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau Addysg ar ran Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morganwg.

     

    Ewch i Wefan

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Rhannon Birch  

  •  Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo

     Cyfarfu Pwyllgor Cydweithredol Amlosgfa Llangrai i drafod y cynllun busnes a'r ffioedd, y perfformiad ariannol a'r gyllideb refeniw arfaethedig, a rhaglen y cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ymwneud ag Amlosgfa Llangrai.

     

    Ewch i Wefan

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Gwyn John, Cyng. Carys Stallard, Cyng. Julie Lynch-Wilson 

  •  Cydbwyllgor Archifau Morgannwg

     Caiff Archifau Morgannwg eu gweinyddu gan Gyd-bwyllgor Archifau Morgannwg (GAJC), sef Pwyllgor o Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig sy'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Cylch gwaith y Pwyllgor yw datblygu a rhedeg gwasanaeth archifau ar y cyd ar gyfer chwe awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. 

     

    Ewch i Wefan

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Gwyn John, Cyng. Rhinnon Birch

  •  Cydbwyllgor y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru

     Sefydlwyd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru i ddarparu a gwella gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Yn 2024, sefydlwyd Pwyllgor Cenedlaethol ar y Cyd i ddarparu goruchwyliaeth ar ran pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

     

    Ewch i Wefan

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Edward Williams 

  •  Cydbwyllgor Prosiect Gwyrdd

     Mae Prosiect Gwyrdd yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Casnewydd a Chyngor Bro Morganwg. Mae gwastraff trefol cyfunol y pum awdurdod yn cyfrif am 40% o gyfanswm gwastraff trefol Cymru. Mae Prosiect Gwyrdd wedi ymrwymo i chwilio am yr ateb gorau amgylcheddol, cost-effeithiol ac ymarferol ar gyfer gwastraff ar ôl i ailgylchu a chompostio gael ei wneud y mwyaf ym mhob ardal.

     

    Ewch i Wefan

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng Mark Wilson, Cyng Ruba Sivagnanam  

  • Cydbwyllgor Y Gwasanaethau Rheolaidd A Rennir

      Mae'r Pwyllgor hwn yn canolbwyntio ar gyflawni'r swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu ar draws ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

     

    Gweld Cyfarfodydd

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng Ruba Sivagnanam, Cyng Pamela Drake   

Mae gan y Cyngor hefyd nifer o Grwpiau a Fforymau Eraill i gefnogi cyflawni ei swyddogaethau: 

  • Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd

    Mae’r Pwyllgor hwn yn gweithio ochr yn ochr â’r Undebau Llafur mewn Partneriaeth Gymdeithasol i wneud argymhellion i’r Cabinet ac ar weithredu telerau ac amodau gwasanaeth a’r addysg, hyfforddiant a lles gweithwyr y Cyngor, yn ogystal ag unrhyw faterion eraill a gyfeirir at y Fforwm i’w hystyried.

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Sally Campbell, Cyng. Janice Charles, Cyng. Marianne Cowpe, Cyng. Pamela Drake, Cyng. William Hennessy, Cyng. Neil Thomas, Cyng. Sandra Perkes 

  •  Panel Cynghori ar Benodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol

    Bydd y Panel Cynghori ar Benodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn gyfrifol am wneud argymhellion i’r Cabinet ynghylch penodi a dileu Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn unol â’r meini prawf a gymeradwywyd sydd wedi’u cynnwys yn y polisi hwn.

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Rhiannon Birch, Cyng. Anne Asbrey, Cyng. Naomi Marshallsea, Cyng. Sally Campbell, Cyng. William Hennessy, Cyng. Margaret Wilkinson

  •  Grŵp Cynghori Arfordir Treftadaeth Morgannwg

     Mae’r cyfarfod hwn yn dod â phrif grwpiau diddordeb ynghyd i hyrwyddo ymwybyddiaeth a diddordeb yn yr Arfordir Treftadaeth.

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Carys Stallard, Cyng. Emma Goodjohn, Cyng. Stephen Haines

  •  Fforwm Ymgynghorol Cydraddoldeb

    Mae’r fforwm hwn yn gweithredu fel fforwm ymgynghorol mewn perthynas â’r polisi a’r gweithdrefnau cydraddoldeb a ddatblygwyd gan y Cyngor, yn hwyluso hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a dileu gwahaniaethu o fewn y Cyngor a’r gymuned ehangach, ac yn cynghori’r Cyngor ar safbwyntiau a phryderon sefydliadau cydraddoldeb a thrigolion y Fro.

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng Ruba Sivagnanam, Cyng. Lis Burnett, Cyng. Amelia Collins, 

    Cyng. Emma Goodjohn, Cyng. Stephen Haines, Cyng. Ian Perry

  •  Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol “The Big Fresh Catering Company”

    Mae gan y Pwyllgor Cyfranddaliwr awdurdod i gyflawni holl swyddogaethau’r Cyngor fel cyfranddaliwr o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, a’r holl ddeddfwriaeth berthnasol a’r canllawiau cysylltiedig mewn perthynas â’i ddyletswyddau fel cyfranddaliwr.

     

    Cynrychiolydd y Fro: Cyng. Lis Burnett