Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL. 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod      PWYLLGOR CRAFFU BYW’N IACH A GOFAL CYMDEITHASOL

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                      DYDD MAWRTH, 5 GORFFENNAF, 2022 AM 5.00 P.M.

         

Lleoliad                         CYFARFOD O BELL          

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2022.

[Gweld Cofnod

 

3.       Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu `â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]  

 

Cyfeiriad –

4.       Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol: 2021/22 – Cabinet: 9 Mehefin, 2022.

[Gweld Cofnod]  

 

Adroddiadau Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol –

5.       Monitro Refeniw am y Cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Mai 2022.

[Gweld Cofnod]  

6.       Monitro Cyfalaf am y Cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 May 2022.

[Gweld Cofnod]  

7.       Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021-2022 – Fersiwn Her.

[Gweld Cofnod]  

8.       Adroddiad Monitro Cynllun Cyflenwi Blynyddol: Perfformiad Chwarter 4 2021/22.

[Gweld Cofnod]  

(Dylai Aelodau roi gwybod i’r Is-adran Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu erbyn 12 hanner dydd ar ddiwrnod y cyfarfod a oes angen swyddog i fod yn bresennol at ddibenion Monitro Perfformiad)

 

9.       Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

10.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

28 Mehefin, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  

A. Rudman, Ffôn: Y Barri (01446) 709855

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

I holl Aelodau'r Pwyllgor Craffu Byw'n Iach a Gofal Cymdeithasol

Cadeirydd: Cynghorydd J.E. Charles;

Is-Gadeirydd: Cynghorydd N.C. Thomas;

Cynghorwyr: G. Ball, C.A. Cave, A.M. Collins, C.M. Cowpe, R. Fisher, S. Lloyd-Selby, J. Lynch-Wilson, J.M. Norman, H.M. Payne a C. Stallard.

 

 

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709855.

 

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx