Cost of Living Support Icon

Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus - Parthau Alcohol a Reolir

Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar waith i reoli yfed alcohol mewn rhai mannau cyhoeddus, sy'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Mae'r gorchymyn cyfredol, a adolygwyd gan y Cyngor ac a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2020, yn cwmpasu'r lleoedd cyhoeddus canlynol:

  • Parc Gwledig Cosmeston

  • Parc Gwledig Porthceri

  • Pier Penarth a’r Esplanâd

  • Traeth Aberogwr a’r tir cyhoeddus o’i amgylch

  • Cwm Col-Huw yn Llanilltud Fawr

  • Trwyn y Rhws

  • Ynys Y Barri

 

Gellir darllen y gorchymyn, gan gynnwys manylion y meysydd ychwanegol a gwmpesir, yn llawn trwy'r ddolen ganlynol:
 
Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Parthau Alcohol a Reolir
 
O dan y ddeddfwriaeth gyfredol, mae angen adolygu'r GDMC bob 3 blynedd.