Cost of Living Support Icon

Lleoliadau Ffilmio

Rydym yn sir llawn gwrthgyferbyniadau; milltiroedd o arfordir dramatig â bryniau gwledig fel cefnlen, pentrefi bach Cymreig del, trefi marchnad prysur a chanolfannau dinesig mawr yn llawn cymeriad a phersonoliaeth. 

 

Mae Caerdydd ar garreg ein drws ac mae cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol gennym (boed mewn car, ar drên neu ar awyren) sy'n ei gwneud yn ddelfrydol fel cyrchfan ar gyfer gwaith ffilmio.    Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o raglenni Teledu a ffilmiau mawr wedi cael eu ffilmio yn y Fro.  Os ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer eich cynhyrchiad, rydyn ni’n ffyddiog na chewch eich siomi yma yn y Fro. 

 

 

Parciau a Gerddi

Mae hen ddigon o barciau a gerddi prydferth yn y Fro i ddewis o'u plith. O barciau a chaeau chwarae lleol i warchodfeydd natur a pharciau gwledig. Efallai’n wir eich bod chi wedi clywed am ein Parciau Gwledig mwy, wedi’r cyfan, mae miloedd yn mynd i’w weld bob blwyddyn. Rydyn ni’n croesawu ffilmio ac mae ein Ceidwaid parc yn barod i ddarparu ar gyfer eich anghenion cynhyrchu. 

 

Mae amrywiaeth o barciau bach, mwy preifat gennym ni hefyd heb y prysurdeb, sydd yr un mor brydferth. Mae gerddi gwledig, trefol, arfordirol a chaeedig ar gael, ac mae gan bob un nodweddion unigryw, safle band arbennig, dôl blodau gwyllt a gerdd ffisig hyd yn oed. 

 

Mae rhai o'n parciau ym meddiant preifat, ond rydyn ni'n hapus i'ch cyflwyno os hoffech chi wneud ymholiadau am ffilmio yn y lleoliadau hynny. 

 

Parks-Montage

 

 

Traethau 

Mae arfordir ysblennydd yn ymestyn ar hyd de'r Sir gan gynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg sy’n ymestyn dros 14 milltir. Felly rydyn ni’n ymfalchïo yn ein traethau yn y Fro. Mae gennym ni draethau Baner Las, traethau glân-mor sydd wedi ennill gwobrau, traethau tywod i'r teulu, traethau cerrig, tafliad carreg o Barciau Gwledig, a thirweddau toreithiog sy'n gweddu'n gampus i'r clogwyni o'u cwmpas.

 

Barry-Island-Beach
Dunraven-Bay-Southerndown
Monknash
Llantwit-Major-Beach

 

Bydd ein Canllaw ar Draethau Bro Morgannwg yn eich helpu i ddeall y cyfleusterau ym mhob lleoliad. Cyngor Bro Morgannwg sy’n rheoli llawer o’r arfordir, ond lle mae angen cael caniatâd perchnogion tir neu asiantau annibynnol, rydyn ni'n hapus i gysylltu ar eich rhan. 

 

Traethau Bro Morgannwg

 

Priffyrdd a Meysydd Parcio 

Mae ein tirwedd yn cynnig amrywiaeth. Mae gennym ni lonydd troellog yn y wlad, priffyrdd trefol, strydoedd preswyl adeiledig a ffyrdd arfordirol sydd â golygfeydd o Fôr Hafren. Bydd ein hadran Priffyrdd yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i leoliad addas a'r cefnir perffaith - Map o Fro Morgannwg.

 

 Os yw eich cais ffilmio yn cynnwys ffilmio ar y briffyrdd a bod angen naill ai rheolaeth draffig dros dro neu gau ffordd, cwblhewch a chyflwynwch naill ai ffurflen Gais Arwyddion Dros Dro neu ffurflen Gais cau ffordd dros dro i'w hystyried cyn i'ch cais ffilmio gael ei gytuno.

 

 

Os bydd angen rhywle i barcio ger eich cynhyrchiad, boed ar gyfer ffilmio neu ar gyfer eich criw, gweler ein canllaw ar feysydd parcio isod.

 

 

Adeiladau ym meddiant y Cyngor

Mae nifer o adeiladau ym meddiant neu yng ngofal Cyngor Bro Morgannwg a allai fod yn ddelfrydol ar gyfer eich gofynion o ran ffilmio.

 

Cymerwch olwg ar yr hyn sydd gennym ni i’w gynnig o ran Adeiladau Dinesig, Adeiladau Hanesyddol, Stadia Chwaraeon a mwy.

 

Mae rhai o adeiladau eiconig y Fro, sy'n cynnig lleoliad gwych ar gyfer ffilmio, ym meddiant a gofal Cyngor Bro Morgannwg ac rydyn ni'n croesawu ystyriaeth o'n hadeiladau gan gwmnïau cynhyrchu ar gyfer eich gofynion ffilmio. Mae ein portffolio’n cynnwys adeiladau dinesig, adeiladau hanesyddol, stadia chwaraeon, pennau pier Fictoraidd a hyd yn oed adeiladau o’r oesoedd canol.

 

Penarth Pier

  • Y Pier Fictoraidd
  • 658 ft
  • Adeilad Pafiliwn

 

Gweler Penarth ar fap

Penarth Pier

Stadiwm Parc Jenner, Y Barri

  • 2,000 o seddi

  • Cae Pêl-droed 3G

  • Trac rhedeg synthetig 400m

  • Tŷ Clwb

 

Gweler Parc Jenner ar fap

Jenner Park

Neuadd Tref y Barri

  • Llyfrgell y Barri 

  • Yr Oriel Gelf Ganolog

  • Grisiau Mawreddog
  • Parlwr y Maer

  • Maes parcio i’r cyhoedd yn y cefn

 

Gweld Neuadd Tref y Barri ar fap

Barry Town Hall

Swyddfa’r Doc, Y Barri

  • Grisiau Mawreddog

  • Tŵr y Cloc

  • Adeilad Rhestredig Gradd II

  • Nodweddion Cyfno

  • Digonedd o le i barcio ar Y

 

Gweler Swyddfeydd y Dociau ar fap

Docks Office

Swyddfeydd Dinesig, Y Barri

  • Siambr y Cyngor

  • Swyddfeydd

  • Ystafelloedd Cyfarfod

     

  • Lle i barcio ar y safle

 

Gweld y Swyddfeydd Dinesig ar fap

Civic