Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Ceisiadau Ffilmio

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o raglenni Teledu a ffilmiau mawr wedi cael eu ffilmio yn y Fro. Os ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer eich cynhyrchiad, rydyn ni’n ffyddiog na chewch chi'ch siomi yma yn y Fro.

 

Rydyn ni'n sir a fydd yn eich synnu. Sir lle mae milltiroedd o arfordir trawiadol yn cwrdd â thirwedd cefn gwlad godidog. Sir sy’n gartref i bentrefi bach pert Cymreig, trefi marchnad bywiog, a chanolfannau dinesig llawn cymeriad a phersonoliaeth. Mae Caerdydd ar garreg y drws ac mae gennym ni gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol (boed mewn car, ar drên neu ar awyren) sy'n ddelfrydol o ran sefydlu lleoliad ffilmio.

 

Nid chi fydd y cyntaf i ddewis y Fro fel cyrchfan berffaith ar gyfer eich cynhyrchiad ffilm/teledu, dyma rai eraill:

 

Britannia

©-Crown-copyright-2019-Wales-Screen-Britannia-at-Nash-Point

Delwedd drwy garedigrwydd Sgrîn Cymru

Criminal

Courtesy-of-Lionsgate-Criminal

Delwedd drwy garedigrwydd Lionsgate

Decline and Fall

Courtesy-of-Tiger-Aspect-Decline-and-Fall

Delwedd drwy garedigrwydd Tiger Aspect

Born to Kill

Courtesy-of-World-Productions-Born-to-Kill

Delwedd drwy garedigrwydd World Productions

 

Darparwyd pob llun drwy Hawlfraint y Goron Sgrîn Cymru. Diolch i Sgrîn Cymru am gael eu defnyddio.

 

Lleoliadau Ffilmio

 

Ffilmio gyda Drôn

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybodaeth am hedfan drôn yn y DU.

 

Mae pob cais sy'n cynnwys defnyddio drôn at ddibenion masnachol yn gofyn am ganiatâd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil, a bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth o'u trwydded cyn y rhoddir caniatâd.

 

Sylwer hefyd, ar 13 Mawrth 2019, bod y parth cyfyngu hedfan drôn o amgylch meysydd awyrennau wedi newid. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i Fro Morgannwg oherwydd Maes Awyr Caerdydd a St.Athan. Gellir dod o hyd i offeryn defnyddiol iawn i nodi ardaloedd hedfan cyfyngedig yma.

 

Mae gwefan Drone Safe Uk yn rhoi manylion defnyddiol iawn am yr holl wybodaeth sy'n ymwneud â hedfan dronau.

 

Mae'r Drone Code yn ddogfen ddefnyddiol i'ch helpu cadw o fewn canllawiau gweithredu.

Mae angen caniatâd y tirfeddiannwr ar weithredwyr dronau (masnachol ac anfasnachol) cyn gweithredu eu drôn.

 

Ffioedd a Chytundebau Ffilmio

Mae’n newyddion gwych eich bod chi’n ystyried dod i Fro Morgannwg i ffilmio. 

Ar ôl i chi gyflwyno’ch ffurflen Ymholiad, bydd ein tîm yn cysylltu i gydlynu’ch ymholiad gyda holl adrannau'r Fro. 

 

Ar ôl i'r ddau barti gytuno ar y ffilmio, a derbyn tystiolaeth o'ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a'ch asesiadau risg, bydd Trwydded Ffilmio Bro Morgannwg yn cael ei chynhyrchu i chi ei llofnodi a'i dychwelyd. Bydd y dogfennau hyn yn amlinellu'r sail y caniateir ffilmio. Rhaid llofnodi'r ddogfen hon cyn dechrau ffilmio.

 

Mae ffioedd yn amrywio yn ôl yr eiddo dan sylw ac unrhyw gyfleusterau ychwanegol sydd eu hangen. Mae ffi hefyd am baratoi trwydded ffilmio. Mae ffioedd yn cael eu codi fesul dydd, fesul hanner dydd neu fesul awr, yn ôl yr achos. Cysylltwch gyda ni i trafod y ffioedd sy'n berthnasol i'ch ymholiad.

Mae manylion llawn Trwydded Ffilmio lleol Bro Morgannwg isod.

Mae angen talu cyn i'r ffilmio ddechrau, lle mae amser yn caniatáu. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i godi ffioedd canslo, i dalu am gostau archebion coll.

 

Bydd y Cyngor:

  • Yn cofnodi’r ffilmio arfaethedig i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, nad yw trefniadau ffilmio'n gorgyffwrdd

  • Rhoi cymorth i ddod o hyd i safle addas lle y bo modd 

  • Weithiau, does dim angen geiriau. Gadewch i’n llunio'ch ysbrydoli

 

 

Sylwer: Ni chodir ffioedd am adroddiadau newyddion a chyfweliadau neu fyfyrwyr sy'n gwneud ffilmiau fel rhan o'u hastudiaethau academaidd. 

 

Gwneud Cais Ffilmio

Os ydych chi eisoes yn gwybod beth sydd ei angen ar gyfer eich cynhyrchiad, gwych.  Llenwch y ffurflen ymholiad isod a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.  

 

Drwy roi cymaint o fanylion ag y gallwch yn y lle cyntaf, bydd modd i ni ateb yn gynt gyda’r manylion am gymeradwyo, costau, ac ati.  

 

Gwneud Cais Ffilmio

 

Os hoffech gael ychydig mwy o ysbrydoliaeth, cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i'r lleoliad perffaith hwnnw.