Cost of Living Support Icon

 

Golau gwyrdd i adeilad newydd ar gyfer ysgol uwchradd Pencoedtre 

Mae caniatâd cynllunio wedi ei roi i godi adeilad newydd £34.7 miliwn ar gyfer Ysgol Uwchradd Pencoedtre.  

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Rhagfyr 2019

    Bro Morgannwg



Pencoedtre HLM Architects Entrance

Mae’r project yn rhan o raglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor a Llywodraeth Cymru a fydd hefyd yn darparu adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Uwchradd Whitmore ac ehangu Ysgol Uwchradd Bro Morgannwg, ymhlith projectau eraill ym Mro Morgannwg. 


Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar y safle ym mis Chwefror 2020 a bydd yn cynnwys adeilad ysgol newydd tair llawr, cae chwarae pob tywydd dan lifoleuadau, pedair cwrt chwaraeon a chaeau gwair ar gyfer rygbi a phêl-droed. 


Mae Bouygues Construction wedi eu penodi i godi’r ysgol newydd ar safle’r ysgol bresennol. Bydd amserlen y project yn gweld y staff a’r disgyblion yn symud i’r adeilad newydd ym mis Hydref 2021 a chwblhau’r project ym mis Gorffennaf 2022. 

 

Dwedodd Trevor Baker - Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol ac Adnoddau:

“Rwy’n falch o weld y project hwn yn mynd yn ei flaen i’r cam nesaf. Bydd y rhaglen waith hon yn gweld dros £30m yn cael ei fuddsoddi yn datblygu adeilad ysgol newydd addas i ddysgu’r G21 a fydd o fudd i’r disgyblion a’r staff yn ogystal â’r gymuned ehangach.”