Cosmeston i elwa ar arian Network Rail
Bydd 1,350 o goed yn cael eu plannu ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston ar ôl i’r hafan bywyd gwyllt leol sicrhau cyllid gan The Greater West Programme Network Rail.
Fel rhan o’r cynllun plannu, bydd estyniad dau hectar i ymyl ddeheuol Coed Cogan a fydd yn cynnwys cymysgedd o goed ffrwythau.
Caiff y rhan fwyaf o’r gwaith plannu ei wneud gan gontractwr, gyda rhai coed hefyd yn cael eu plannu gan Grŵp Bywyd Gwyllt Cosmeston a gwirfoddolwyr.
Bydd y gwirfoddolwyr, ynghyd â Gwasanaeth Ceidwaid Cyngor Bro Morgannwg ar y safle, yn helpu i gynnal yr estyniad yn y blynyddoedd a ddaw.
Meddai’r Cyng. Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio,
“Bydd yr arian a dderbyniwyd gan Network Rail trwy The Greater West Programme o fudd mawr i fioamrywiaeth Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.
“Mae plannu coed yn dwyn llawer o fanteision cymdeithasol, amgylcheddol, iechyd a lles a dylai fod yn nodwedd arall i’r parc gwledig sydd eisoes yn denu dros 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn.”
Meddai Emmanuel Deschamps, Rheolwr yr Amgylchedd dros Network Rail,
“Mae’n wych gallu cefnogi’r project hwn. Caiff cynefin newydd ei greu ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau. Mae projectau fel hyn yn hollbwysig wrth greu mannau gwyrdd i bobl a bywyd gwyllt eu mwynhau.”
Cynllun gwneud yn iawn am niwed i fioamrywiaeth yw The Greater West Programme gan Network Rail sy’n cefnogi plannu cynefinoedd a phrojectau gwella ar dir trydydd parti.
Mae Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd ar draws mwy na 100 hectar o dir a dŵr, gyda rhai ardaloedd wedi’u dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig er mwyn gwarchod y rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid prin ac amrywiol.
Agorwyd y parc gwledig i’r cyhoedd ym 1978 a dyfarnwyd statws Gwarchodfa Natur Leol iddo ym mis Mai 2013.