Cost of Living Support Icon

 

Twyll Treth Gyngor

Mae trigolion yn cael eu rhybuddio am sgamiau sy’n cynnig disgownt Treth Gyngor, gyda’r bwriad o gael gafael ar fanylion talu.

  • Dydd Gwener, 15 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg

 

 

Someone using a mobile phone

Mae nifer o breswylwyr wedi dweud bod twyllwyr wedi cysylltu â nhw, gan ddefnyddio brandio gov.uk mewn texts a gofyn i bobl:

 

'Your recent Council Tax payment is over paid. Check the amount and claim refund now as the due date ends soon via https://govgroup.net thank you'

Anogir preswylwyr i beidio â datgelu eu manylion bancio nac unrhyw wybodaeth bersonol arall os bydd rhywun yn cysylltu â nhw i gynnig gwasanaeth o’r fath. 

 

Gofynnir i bawb sy’n derbyn gohebiaeth fel yr un uchod i hysbysu’r Cyngor, naill ai drwy ffonio 01446 709564 neu e-bostio CouncilTax@valeofglamorgan.gov.uk.

 

Mae cyfarwyddyd hefyd ar gael gan y Gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth.

  • 03454 040506