Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Gymraeg Sant Curig yn rhagori yn ôl adroddiad arolygu yn ddiweddar

Mae ysgol ym Mro Morgannwg wedi disgleirio mewn adroddiad arolygu yn ddiweddar.

  • Dydd Mercher, 06 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg

    Barri



Barnwyd fod Ysgol Gymraeg Sant Curig yn y Barri yn rhagorol mewn tri allan o bum maes yr aseswyd yr ysgol arnynt ac yn dda yn y ddau arall.


Derbyniodd yr ysgol y radd uchaf bosib yng nghategorïau llesiant ac agwedd at ddysgu; Gofal, Cymorth ac  Arweiniad, ac Arweinyddiaeth a Rheoli, tra bod Safonau, Addysgu a Phrofiadau Dysgu wedi eu barnu fel da, gyda rhai nodweddion rhagorol. 


Ym maes Llesiant ac Agweddau at Ddysgu, ymhlith ffactorau eraill canmolodd yr adroddiad y cysylltiadau agos sydd rhwng disgyblion ac athrawon.

 

Sant Curig

Dywed yr adroddiad: “Mae cryfder y berthynas weithio rhwng disgyblion a staff yn nodwedd hynod ar waith yr ysgol ac yn cyfrannu’n helaeth at amgylchedd dysgu effeithiol.”


Nodwyd hefyd fod ‘Parodrwydd y Llywodraethwyr i herio’r ysgol er mwyn sicrhau gwelliannau yn nodwedd gref.’


Canmolwyd y Pennaeth Siân Owen yn benodol wrth sôn am Arweinyddiaeth a Rheoli, gyda’r adroddiad yn datgan: “Mae’r pennaeth yn rhoi arweiniad blaengar a chadarn ac yn gosod cyfeiriad strategol clir ar gyfer datblygu’r ysgol. Mae ganddi ddisgwyliadau uchel iawn ac mae’n angerddol dros y gymuned y mae’n ei gwasanaethu.”


Canmolodd yr adroddiad hefyd dîm rheoli’r ysgol a ddisgrifiwyd gan Estyn fel un ‘o safon uchel iawn.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant yng Nghyngor Bro Morgannwg: “Hoffwn longyfarch Ysgol Gymraeg Sant Curig ar ei adroddiad arolwg rhagorol yn ddiweddar. Mae llawer o waith caled y tu cefn i ganlyniad mor drawiadol â hynny felly mae’r staff a’r disgyblion yn haeddu llawer o ganmoliaeth.

 

“Mae’n amlwg y bydd disgyblion sy’n gadael Ysgol Gymraeg Sant Curig wedi eu paratoi yn dda ar gyfer cam nesaf eu taith addysgol.


“Mae addysg yn hynod bwysig i’r Cyngor ac rydym wedi ymrwymo i roi’r dechrau gorau posib ar fywyd i blant y Fro. I’r perwyl hwn, bydd ein rhaglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain ganrif  yn parhau yn 2019 a thu hwnt i hynny. Mae hwn yn gydweithrediad unigryw rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru a fydd yn gweld cannoedd o filiynau o bunnoedd yn cael ei wario i drawsnewid addysg feithrin, cynradd, uwchradd, ffydd ac addysg arbennig ledled y Sir.”