Cost of Living Support Icon

 

Cronfa gwerth £20mil ar gyfer gwelliannau i Driongl Arcot

Mae Triongl Arcot Street wedi’i enwi fel ardal gyhoeddus agored a fyddai’n elwa o gael gwaith celf o safon.

 

  • Dydd Mawrth, 08 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg



Mae’r Cyngor wedi gwahodd preswylwyr Penarth i weithdy i ystyried y potensial ar gyfer Celf Gyhoeddus yn Nhriongl Arcot.


Bydd y sesiwn yn rhoi sail ar gyfer casglu gwybodaeth a thrafod syniadau ar gyfer y gofod hwn a sut y gellid gosod celf gyhoeddus yno, yn unol â naws yr ardal leol.


Gwahoddir preswylwyr i weithdy yn Ystafelloedd Paget ar 16 Ionawr o 6:00pm tan 7:30pm i rannu eu syniadau.


Yn ddiweddar, mae’r ardal wedi cael meinciau newydd, gwelyau blodau a thirlunio diolch i Grŵp Garddio Triongl Arcot. Bwriedir gwneud rhagor o welliannau i ategu’r gwaith hwn. 


Cafodd y Cyngor gyfraniad Adran 106 ar gyfer Celf Gyhoeddus gan ddatblygwr Penarth Uchaf, Crest Nicholson. 


Mae ‘Celf Gyhoeddus’ yn cynnwys ystod eang o arferion a ffurfiau celf. Ar ôl y sesiwn hon, bydd y Cyngor yn paratoi ac yn tendro briff.