Cost of Living Support Icon

 

Gwario £160,000 ar wella Parc Sglefrio Cogan

Mae HAGS, mewn partneriaeth gyda Maverick Skateparks, wedi eu penodi i wella cyfleusterau’r parc sglefrio ar Dir Hamdden Cogan, cynllun a fydd hefyd yn cynnwys gwaith celf integredig.

 

  • Dydd Mawrth, 29 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg



Mae’r gwaith yn rhan o Gynllun Gwella Gofod Cyhoeddus Gogledd Penarth, sy’n cael ei ariannu gan gyfraniadau adran 106 gan ddatblygwyr Penarth Heights.


Bydd cyfres o weithdai’n cael eu cynnal ar gyfer preswylwyr lleol a’r gymuned sglefrio leol er mwyn llywio dyluniad y parc sglefrio.  


Dywedodd Cyng. Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio:

 

'Rwyf wrth fy modd ein bod wedi penodi HAGS a Maverick i gwblhau'r prosiect hwn, mae yna rai enghreifftiau gwych o gyfleusterau sglefrio y maent wedi'u cwblhau ledled y DU. Elfen hanfodol wrth gael y cynllun yn iawn ar gyfer y prosiect hwn yw cynnwys y gymuned sglefrio leol a fydd yn defnyddio'r cyfleuster yn y dyluniad, felly hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb i fynychu'r gweithdai hyn. '

Bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 9 Chwefror yn Ystafell Gyfarfod Canolfan Hamdden Penarth.  


Gwahoddir preswylwyr i alw heibio unrhyw bryd rhwng 11:30am a 4pm i ddysgu mwy am y project. Bydd cyfle hefyd i gofrestru ar gyfer gweithdai pellach i helpu dylunio’r parc sglefrio a’r gwaith celf.


Wrth iddo gael ei benodi, dywedodd Thomas Griffiths o HAGS:

 

“Mae HAGS wrth eu bodd yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg a Maverick ar wella cyfleusterau sglefrio Tir Hamdden Cogan. Bydd cynnwys y gymuned leol a’r rhai fydd yn defnyddio’r cyfleusterau newydd yn sicrhau project llwyddiannus sy’n edrych tua’r dyfodol, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd ddydd Sadwrn 9 Chwefror.”