Cost of Living Support Icon

 

Y cyngor i ariannu’r cam diweddaraf o astudiaeth i welliannau teithio posibl

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn darparu dros £50,000 i gwblhau astudiaeth i welliannau trafnidiaeth posibl yn Ninas Powys.

 

  • Dydd Mercher, 10 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



Ar ôl i Lywodraeth Cymru ddewis peidio ag ymrwymo rhagor o arian i’r gwaith, bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau y cwblheir Cam 2 o Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).


Contractwyr Arcadis Consulting sydd wedi cael eu dewis i gyflawni’r gwaith ac fe ragwelir yr ymgynghorir a’r cyhoedd ar ei ganfyddiadau ddechrau’r flwyddyn nesaf.


Gall rhain gynnwys gwelliannau i deithio llesol a thrafnidiaeth cyhoeddus wrth i ni ystyried y posibilrwydd o adeiladu ffordd osgoi ar gyfer y pentref.


“Mae'n bwysig cwblhau'r cam diweddaraf hwn o waith i archwilio gwelliannau teithio posibl ar gyfer Dinas Powys fel y gallwn blotio'r ffordd orau ymlaen yn gywir.

 

“I'r perwyl hwnnw, mae'r Cyngor wedi penderfynu darparu'r arian sy'n weddill ar gyfer astudiaeth WelTAG Cam 2, a bydd y gwaith hwn yn dechrau yn y dyfodol agos. Wedi hynny, bydd y casgliadau'n cael eu hystyried yn drylwyr, ynghyd â barn yr holl bartïon â diddordeb, cyn cymryd unrhyw benderfyniadau ar yr hyn sy'n dilyn." - Y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth Cyngor Bro Morgannwg.


Yn bennaf, bydd y gwaith yn cynnwys y canlynol:

  • Gweithio gyda Network Rail er mwyn deall y cyfyngiadau a’r costau posiblfydd yn gysylltiedig ag adeiladu ffordd osgoi a chyffordd yng nghyffiniau’r twnnel rheilffordd cyfredol

  • Ymgymryd â dylunio’r syniad, modelu ac asesu costau gwelliannau a argymhellir i gyffordd Merrie Harrier er mwyn gwella capasiti. Bydd y rhain yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y costau sy’n gysylltiedig â’r llwybrau pinc a gwyrdd.

  • Comisiynu Trafnidiaeth Cymru i gyflawni gwaith modelu strategol gan ddefnyddio Model ffordd osgoi Trafnidiaeth De-Ddwyrain CymruModel o gynigion y ffordd osgoi. 

  • Diweddaru’r gwerthusiad economaidd ar gyfer alinio’r llwybrau gwyrdd/pinc a diweddaru’r achos trafnidiaeth ac adroddiad Cam 2.

  • Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ganfyddiadau adroddiad Cam 2, ei gwblhau a gwneud argymhellion i’w cyflwyno i Achos Busnes Llawn Cam 3 WelTAG.