Cost of Living Support Icon

 

Arolygwyr yn rhoi gradd ragorol i Ysgol Gyfun Y Bont-faen

Mae Ysgol Gyfun Y Bont-faen wedi derbyn adroddiad arolygiad penigamp ar ôl cael gradd ragorol ym mhob un o’r pum categori asesu.

 

  • Dydd Iau, 20 Mis Mehefin 2019

    Bro Morgannwg

    Cowbridge



Rhoddwyd y marciau uchaf i’r ysgol yn gyffredinol a gofnododd ei chanlyniadau Uwch Gyfrannol gorau erioed yr haf diwethaf a’r perfformiad gorau o ran TGAU yn hanes yr ysgol.


Yn y meysydd safonau, llesiant ac ymddygiad at ddysgu, addysgu a phrofiadau dysgu, arwain a rheoli, a gofal, cymorth ac arweiniad, dyfarnwyd y radd uchaf posibl i Ysgol Gyfun Y Bont-faen.

 

Cowbridge Photos 005


Mae’r arolygwyr hyd yn oed wedi gwahodd yr ysgol i gyflwyno astudiaeth achos o’i gwaith o gynnal rhagoriaeth i’w ddefnyddio fel enghraifft i eraill ar wefan Estyn.


Yn ôl yr adroddiad: “Mae arweinyddiaeth gryf a sicr, cynllunio gofalus o’r cwricwlwm ac addysg effeithiol a chyson er mwyn addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau lefelau uchel dros ben o gyrhaeddiad a llesiant disgyblion yn Ysgol Gyfun Y Bont-faen.”


Yn y maes safonau, mae’r adroddiad yn nodi’r canlynol: “Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ddysgwyr brwd. Maen nhw’n cymryd balchder amlwg yn eu gwaith ac yn gwneud cynnydd da mewn gwersi. Gallant gofio’r dysgu blaenorol yn dda a gweithredu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth hyn yn hyderus mewn gwahanol sefyllfaoedd heriol.”


Ac yn y maes llesiant ac ymddygiad at ddysgu, mae’r arolygwyr yn nodi’r canlynol: “Mae bron pob disgybl yn ymddwyn yn aeddfed ac yn barchus mewn gwersi ac wrth fynd o amgylch yr ysgol. Maen nhw’n gwrtais tuag at eu hathrawon, eu cyfoedion ac ymwelwyr ac yn meddu ar ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb a dinasyddiaeth.” 


Mae’r ganmoliaeth yn parhau yn y categori addysgu a phrofiadau dysgu, sy’n datgan: “Mae addysg effeithiol a chyson, cynllunio gofalus o’r cwricwlwm a darpariaeth gryf ar gyfer meithrin sgiliau disgyblion yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad personol a llesiant disgyblion, a’r safonau maent yn eu cyrraedd.”

 

 

Wrth werthuso gofal, cymorth ac arweiniad, daeth yr arolygwyr i’r casgliad fel a ganlyn: “Mae’r ysgol yn gymuned gyfeillgar a chynhwysol dros ben, lle mae disgyblion a staff yn gwerthfawrogi ac yn parchu ei gilydd, ac yn rhannu disgwyliadau uchel. Mae’r staff yn ymroddedig i fodloni anghenion unigol disgyblion a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y gofal a chymorth o safon y mae’r ysgol yn eu darparu. O ganlyniad, mae disgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu a’u datblygiad personol a chymdeithasol.”


Yn olaf, o dan y pennawd arwain a rheoli, mae’r adroddiad yn nodi’r canlynol: “Mae’r Pennaeth yn rhoi arweinyddiaeth gryf a phendant. Caiff ei chefnogi’n dda gan ei huwch dîm arwain. Gyda’i gilydd, maent wedi datblygu gweledigaeth glir i addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc, a’u paratoi yn y dull gorau posibl ar gyfer eu dyfodol. Mae staff, disgyblion a’r corff llywodraethu’n croesawu amcanion a disgwyliadau’r ysgol yn llawn. Mae arweinyddiaeth drwy gydol yr ysgol wedi cyfrannu’n sylweddol at wella ansawdd yr addysgu, y cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud mewn gwersi a chanlyniadau arholiadau.”

 

Dywedodd Debra Thomas, Pennaeth yr ysgol: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith ein disgyblion a’n staff wedi cael ei gydnabod fel rhagorol ac o’r safon uchaf. Yn ogystal, rydym yn falch nad yw Estyn wedi argymell unrhyw feysydd i’w gwella. Fodd bynnag, gwyddom fod gwelliant yn rhywbeth parhaus ac rydym yn prysur gynllunio ein blaenoriaeth nesaf i ddatblygu ymhellach.”

Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: “Mae’r adroddiad arolwg ysgol hwn yn ddim llai na rhagorol. Mae’r disgyblion a’r staff yn haeddu clod mawr am y llwyddiant arbennig hwn. Bellach, caiff Ysgol Gyfun Y Bont-faen ei hystyried yn esiampl i eraill a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm wrth hyn. Dylai pob un ohonoch deimlo balchder mawr."