Cost of Living Support Icon

 

Clodfori artistiaid benywaidd yn yr Oriel Gelf Ganolog

MAE GWAITH CELF gan fenywod o Fro Morgannwg sy’n ysbrydoliaeth yn yr Oriel Gelf Ganolog y mis hwn.

 

  • Dydd Mercher, 13 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Art Central WAA exhibtiionMae dros 70 darn gan fenywod o Gymru gyfan a’r Fro yn arddangosiad Dydd Rhyngwladol Hawliau Benywod gan Gymdeithas Gelf Benywod.

 

Mae’r arddangosiad yn trafod themâu teulu a chartref, iechyd a lles a chariad a cholled, ac mae ynddo bortreadau hardd, tirluniau trawiadol a gwaith o gywreindod ac angerdd anhygoel. 

 

08 Mawrth oedd Dydd Rhyngwladol Hawliau Benywod, ac fel rhan o’r digwyddiad, bu’r Gymdeithas yn clodfori benywod creadigol ers dros ddeng mlynedd ar hugain.

 

Wedi ei chyflwyno gan gadeirydd y Gymdeithas, Jilly Hicks, yr Athro Gerda Roper, artist o’r Barri, a groesawodd ymwelwyr i’r agoriad yn yr Oriel Ganolog gan fynegi ei barn ar y gwaith ar ddangos. Dywedodd: 

 

“Mae’r artistiaid yma’n cyffwrdd ag ystod eang o destunau. Maen nhw oll yn sôn, trwy eu hiaith weledol eu hunain, am yr hyn y maen nhw’n sylwi arno, yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r hyn sy’n eu cyffwrdd. 

 

“Mae tapestrïau a brodwaith, cerfluniau meddal hyfryd, yn ddoniol a hoffus o ran eu cysyniad, a phaentiadau, dyfrlliwiau, collage, ffotograffau, lithograffau, printiadau leino a darluniau campus."

 

Bydd yr arddangosiad yn Oriel Ganolog y Barri tan 06 Ebrill, a chewch ymweld ag ef o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: 

 

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael arddangos arddangosiad Cymdeithas Gelf Benywod yma yn yr Oriel Ganolog i ddathlu Dydd Rhyngwladol Hawliau Benywod.  

 

“Mae bob tro yn gymysgedd amrywiol o waith, sy’n dangos y sgiliau deinamig sydd gan bob person i greu darnau o gelf unigryw. 

 

“Os oes diddordeb gennych chi mewn celf benywod, daw’r Athro Roper yn ôl i’r oriel ddydd Sadwrn 23 Mawrth am 1.00pm i draddodi cyflwyniad ar arolwg ar artistiaid benywaidd, beth maent yn ei greu a sut.”

 

Bydd mynediad i glywed cyflwyniad yr Athro Roper yn £2 i bob un nad yw’n Gyfaill yr Oriel Ganolog ac aelodau’r Gymdeithas Gelf Benywod.

 

Am ragor o wybodaeth am gelf ym Mro Morgannwg ac amseroedd agor yr oriel ewch i Oriel Celf Ganolog.

 

Jilly Hicks Chair WAA, Jane Salisbury Chair ACF, Prof. Gerda Roper & Tracey Harding