Cost of Living Support Icon

 

Mwy o bobl yn ymarfer yn y Fro diolch i grant cist y gymuned

Mae cyllid gwerth £68,478 wedi'i rannu rhwng clybiau a phrosiectau lleol sy'n datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer gweithgarwch corfforol ym Mro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



RunnerDros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, disgwylir bod bron 7,000 o gyfranogwyr lleol wedi elwa ar gyllid Chwaraeon Cymru.

 
Mae 60 o glybiau a phrosiectau, mewn 13 o drefi a phentrefi yn y Sir, wedi gwireddu eu cynlluniau i gynyddu cyfranogiad ymhlith oedolion a phobl ifanc, ac i greu mwy o gyfleoedd hyfforddi.   

 

Mae cynllun Cist y Gymuned yn cael ei ariannu gan Chwaraeon Cymru a'i reoli'n lleol gan adran datblygu chwaraeon Tîm Byw'n Iach Cyngor Bro Morgannwg. 


Gwnaeth sefydliadau ar draws y Fro gais am gyllid er mwyn helpu i greu gweithgareddau newydd, neu i helpu i wella'r rhai presennol. 


Roedd 11 o'r rhai a dderbyniodd gyllid yn ei ddefnyddio i ganolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd i fenywod. 


Roedd y rhain yn cynnwys Clwb Pêl-fasged y Barri, sy'n edrych i gynyddu nifer y menywod sy'n oedolion yn y clwb, clwb Pêl-fasged Merched y Vale Vipers, sy'n ystyried cynyddu nifer y chwaraewyr  dan 12 oed, a Sboncen y Barri, sy'n mynd i ddarparu sesiynau ar gyfer menywod yn unig yn y dyfodol.


Mewn mannau eraill, defnyddiwyd yr arian hefyd ar gyfer cyrsiau hyfforddi’r hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, i brynu offer ar gyfer gweithgareddau newydd, i hyrwyddo eu prosiectau, ac i dalu am y llogi cyfleusterau cychwynnol.


Nid ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig y mae'r grantiau’n cael eu dosbarthu. Maent hefyd wedi cael eu defnyddio i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol newydd, megis grwpiau rhedeg a beicio.


Mae’r sefydliadau heblaw chwaraeon sydd wedi llwyddo i dderbyn arian o Gist y Gymuned yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys Ymddiriedolaeth Fethodistaidd Amelia Cyf, Cymdeithas Tai Newydd a Chymdeithas Trigolion Graig a Phen-llin, a dderbyniodd arian i brynu arwyddion llawn gwybodaeth ar gyfer llwybr gweithgaredd sy'n hwyluso gweithgareddau ymarfer corff annibynnol yn yr awyr agored heb fod angen offer corfforol.


Bydd cynllun Cist y Gymuned yn dychwelyd yn y flwyddyn ariannol newydd (Ebrill 2019 – Mawrth 2020), gyda gwerth £81,500 yn cael ei neilltuo i sefydliadau Bro Morgannwg. 


Os ydych yn rhan o sefydliad sydd â diddordeb mewn datblygu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol yn y Fro, beth am wneud cais am arian o Gist y Gymuned?


Os hoffech drafod prosiect posibl, ffoniwch Karen Davies, Prif Swyddog Byw'n Iach Cyngor Bro Morgannwg ar 01446 704793, cyn cyflwyno'ch cynnig erbyn y dyddiad cau, sef 04 Ebrill. 

 

Cist y Gymuned