Cost of Living Support Icon

 

Polisi parcio newydd ar gyfer Bro Morgannwg

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried dull rheoli parcio gwahanol trwy Fro Morgannwg ddydd Llun 18 Mawrth, wrth i’r Cyngor geisio cyflwyno codi tâl pellach mewn rhai meysydd parcio ac ar strydoedd mewn cyrchfannau. 

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Parking sign

Ni chyflwynwyd costau ar gyfer parcio ar y stryd yng nghanol trefi dan y cynigion polisi parcio newydd. Byddai’r cynigion yn golygu y byddai’r parcio yn parhau am ddim am y ddwy awr gyntaf yn ogystal â thrwy ddydd Sul ym mhob maes parcio canol y dref.  Byddai trwyddedi 6 a 12 mis hefyd ar gael i ddefnyddwyr rheolaidd.  Byddai costau ar gyfer aros yn hwy na 2 awr mewn meysydd parcio yng nghanol trefi ond nid ar y stryd.

 

Cynigir codi tâl am barcio mewn meysydd parcio mewn cyrchfannau trwy’r flwyddyn yn Ynys y Barri, Aberogwr a Southerndown. Bydd y costau hyn yn amrywio yn ystod yr amser prysuraf a gweddill yr amser a byddai parcio am ddim cyn 8am a’r costau’n is ar ôl 4pm. Byddai tâl am barcio ar y stryd hefyd yng nghyrchfannau Ynys y Barri a Rhodfa Glan Môr Penarth.

 

Dan y cynigion, a gynhyrchwyd gan swyddogion y Cyngor yn dilyn ystyriaeth fanwl o ymgynghoriad cyhoeddus trylwyr a hir yn 2018, byddai newidiadau hefyd ym meysydd parcio arfordirol Cold Knap y Barri, Cwm Col Huw yn Llanilltud Fawr a’r llwybr hyd y creigiau ym Mhenarth. Bydd y costau hyn ar gyfer 2019/20 ac yn berthnasol dros dymor yr haf yn unig. 

 

Byddai pasys blynyddol ar gael ar gyfer meysydd parcio’r holl gyrchfannau a’r arfordir.

 

Byddai tâl o rhwng £1 a £3 yn Llynnoedd Cosmeston a Pharciau Gwledig Porthceri rhwng 8am a 6pm. Eto, byddai pas blynyddol am bris is ar gael.

 

Byddai parcio ar gyfer ceir sy’n arddangos bathodyn glas am ddim ym mhob achos.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Cox, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Mae cynnal costau meysydd parcio’r Fro yn costio dros £300,000 i’r Cyngor bob blwyddyn ac nid yw hyn yn cynnwys costau rheoli’r cyrchfannau maent yn eu cefnogi. 


“Fel y cydnabuwyd yn gyffredinol yn ystod y drafodaeth ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20, nid oes dewis arall ond ceisio codi incwm ychwanegol os ydym yn dymuno darparu’r gwasanaethau rydym yn gwybod mae ein preswylwyr eu heisiau, ac sy’n denu ymwelwyr i’r Fro.


“Rydym wedi gwrando’n astud ar farn a rannwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac mae’r Polisi a gynigiwn yn dra gwahanol i’r un a gynigiwyd gan Capita.   Bydd parcio am ddim am ddwy awr ym meysydd parcio canol trefi ac ni fydd tâl o gwbl am barcio ar y stryd yng nghanol trefi. Rydym wedi gwneud popeth y gallwn ei wneud i sicrhau na fydd y costau hyn ar draul preswylwyr lleol ac rydym wedi sicrhau y bydd y costau yn gystadleuol ag ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos.


“Bydd y mesuriadau ar gyfer trwyddedau parcio i breswylwyr hefyd yn sicrhau y gall preswylwyr lleol sicrhau y cânt flaenoriaeth am gost resymol pan fo tâl premiwm, heb gyfyngiad ar nifer y trwyddedau y gall pob aelwyd wneud cais amdanynt.”

Os caiff polisi parcio newydd y Cyngor ei gymeradwyo ar 18 Mawrth, mae’n debygol y daw’r newidiadau a gynigir i rym yn hwyrach yn 2019, wedi gosod y fframwaith cyfreithiol gofynnol. 

 

Cofrestru i Siarad

Gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan mewn amryw o gyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau a gynhelir gan Gyngor Bro Morgannwg

 

Ar 4 Ebrill bydd y Pwyllgor Amgylchedd ac Adfywio yn cyfarfod i drafod cynigion ar gyfer Strategaeth Barcio ar gyfer Bro Morgannwg. Bydd cofrestru'n agor ddydd Gwener 29 Mawrth o 8:30 am ac yn cau ddydd Mercher 3 Ebrill am 4:00pm.

 

Cofrestru i Siarad