Cost of Living Support Icon

 

Rydym yn ymuno ag WWF Cymru ar gyfer Awr Ddaear 

Ddydd Sadwrn 30 Mawrth 2019, 8:30pm - 9:30pm

 

Mae Awr Ddaear WWF yn ymgyrch fyd-eang sy’n dwyn ynghyd pobl o bedwar ban y byd i alw am fwy o weithredu er mwyn amddiffyn ein planed. 

 

Bob blwyddyn mae miliynau o bobl o bob rhan o’r byd yn cymryd rhan trwy ddiffodd eu goleuadau a threfnu digwyddiadau i’w cymunedau i ddangos bod y byd yn bwysig iddynt. 


Rydym yn diffodd goleuadau nad ydynt yn hanfodol am awr i helpu i greu arddangosiad symbolaidd a rhagorol ac annog tirnodau a busnesau lleol yn eich ardal i wneud yr un peth.

 

 

Ein rheswm dros gefnogi Awr Ddaear

Mae ein byd dan fygythiad yn fwy nag erioed. Rydym yn dinistrio coedwigoedd, tagu’r moroedd gyda phlastig, degymu meintiau poblogaeth bywyd gwyllt ac yn achosi newidiadau dinistriol i’r hinsawdd. Ni yw’r genhedlaeth gyntaf i wybod ein bod yn dinistrio’r byd. A gallen ni fod y genhedlaeth olaf a all wneud unrhyw beth amdano. Rhaid i ni weithredu nawr i wrthdroi’r difrod ac adfer natur. Mae gennym yr atebion, ond nawr mae angen i’n lleisiau gael eu clywed. 

 

Mae Awr Ddaear yn hanfodol am y rheswm hwnnw – mae’n rhoi llais grymus i bobl ymhobman sydd am i’r byd ddechrau gwella.  Yn y DU, bob blwyddyn, mae miliynau ohonom yn cymryd rhan yn Awr Ddaear. Trwy addo i helpu ein planed, a thrwy fod yn rhan o ymgyrch sy’n cynnwys miliynau o bobl o bedwar ban y byd, gallwn ni ddangos ein bod yn brwydro dros ein byd. 

 

Glanhau’r Traeth

Mae grŵp ‘Action for Nature’ y Barri yn cynnal sesiwn lanhau’r traeth gyda’r nos am 8.00pm yn Ynys y Barri. I ddangos eu cefnogaeth dros Awr Ddaear, am 8:30pm byddant yn diffodd eu caban wedi’i logi ar y traeth mewn modd symbolaidd ac yn gweini te a choffi Masnach Deg gyda phice ar y maen.  

 

Pris:  £2.00 – Caiff yr holl arian a godir ei roi i WWF.