Cost of Living Support Icon

 

Datblygwyr ysgolion newydd y Barri yn rhoi nôl i'r gymuned

Yn rhan o gyfraniad Cyngor Bro Morgannwg at Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, bydd y Cyngor yn adeiladu tri adeilad ysgol newydd wedi’u hadfywio yn Y Barri, yn gweithio gyda’r contractwyr Bouygues, ISG a Morgan Sindall.

 

  • Dydd Mawrth, 14 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



Yn rhan o’r tri chynllun, bydd y contractwyr yn cydweithio â phrojectau trydydd sector a sector cyhoeddus i greu ystod o fanteision cymunedol.


Bydd y contractwyr yn cynnig taliadau mewn nwyddau, amser gwirfoddoli, cyfleoedd profiad gwaith a hyfforddiant, cyngor busnes a chyfleoedd uwchsgilio i wirfoddolwyr.


Mae cymorth ar gael i brojectau, sefydliadau neu fentrau cymdeithasol o’r fath gyda’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus ledled Bro Morgannwg. Bydd projectau sy’n ymwneud â gwella canlyniadau i bobl, yr amgylchedd neu’r economi leol hefyd yn gymwys. 


Wrth drafod y project, meddai Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau’r Cyngor, Paula Ham:

 

‘Dyma gyfle gwych i grwpiau lleol i ddysgu am a chael bod yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Nod y Cyngor yw sicrhau y bydd yr holl gymuned yn elwa ar y buddsoddiad hwn i addysg Bro Morgannwg i’r dyfodol.’

Bydd y project buddion cymunedol yn lansio ar ddydd Mercher 29 Mai 2019 gyda digwyddiad yn Ynys y Barri. Rhwng 10:00am – 12:00pm gall grwpiau cymunedol lleol a phreswylwyr ddysgu mwy am y project, cwrdd â datblygwyr a chymryd rhan mewn digwyddiad codi sbwriel i’r teulu i helpu i gadw Ynys y Barri’n daclus.  


Dylai gwirfoddolwyr sydd am gymryd rhan yn y digwyddiad codi sbwriel gwrdd o dan Lloches y Dwyrain am 10:00am. 


Ceir rhagor o wybodaeth am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar wefan y Cyngor: Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Bro Morgannwg