Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg i nodi Diwrnod y Cadoediad

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn dal i gefnogi’r Lleng Brydeinig Frenhinol drwy gynnal seremoni gosod torch i nodi Diwrnod y Cadoediad ar ddydd Llun 11 Tachwedd.

Western shelter lit up red banner size

Cynhelir gwasanaeth byr, ynghyd â dwy funud o dawelwch, yng Nghwrt Blaen y Swyddfa Ddinesig, y Barri, o flaen Cofeb y Morwyr Masnachol, gan ddechrau am 10.45am. 

 

Bydd y Maer, y Rheolwr Gyfarwyddwr ac arweinwyr gwleidyddol ynghyd â chynrychiolwyr sefydliadau lleol yn gosod torchau i gofio’r sawl fu farw. Mae’r seremoni ar agor i bawb ac anogir aelodau’r cyhoedd i fynychu a thalu teyrnged. Nodir dechrau a diwedd y tawelwch drwy ganiadau’r corn.  

 

 

Mae Lloches Orllewinol Ynys y Barri hefyd wedi'i oleuo mewn coch i nodi'r diwrnod.