Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 

Mae Rhan 2 y Cynllun Gwella’n adrodd ar berfformiad y Cyngor dros y flwyddyn flaenorol, trwy ddefnyddio ystod o ddata cenedlaethol a lleol.

 

  • Dydd Mercher, 16 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



Mae’r Cynllun Gwella (Rhan 2) yn adrodd cynnydd wrth gyflawni’r Amcanion Lles a bennwn i’n hunain yn y flwyddyn flaenorol yn ein blaengynllun.

 

Rhai o brif gyflawniadau adroddiad eleni yw:

 

  • Perfformiad gorau disgyblion blwyddyn 11 (a gyfrifir gan ddefnyddio mesur ‘Capio 9’ Llywodraeth Cymru) 
  • Nifer isaf o ddisgyblion wedi gadael Blwyddyn 11 heb fod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET)
  • Perfformiad gorau o ran nifer y cartrefi sy’n byw dan fygythiad digartrefedd, gan lwyddo atal digartrefedd
  • Eiddo preifat gwag a ddaeth yn rhai oedd yn cael eu defnyddio eto 
  • Swm isaf o rent a gollir oherwydd bod tai cyngor gosodadwy’n wag.
  • Enillwyd cydnabyddiaeth genedlaethol am ein gwaith ar atal digartrefedd ac fe’n rhoddwyd ar restr fer Gwobr ‘Project Digartrefedd y Flwyddyn’ y DU.
  • Yn ystod 2018/19 roedd 11,643 ymweliad â chyfleusterau chwaraeon a hamdden yr awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn i bob 1,000 o’r boblogaeth, y 3ydd uchaf yng Nghymru.
  • Cafodd ein gwasanaeth Atgyfeirio Trais Domestig gydnabyddiaeth genedlaethol am ei waith wrth leihau ail ddigwyddiadau cam-drin/trais domestig ac fe’n rhoddwyd ar restr fer yng Ngwobrau Tai’r DU am Arloesi. 
  • Ni oedd yr awdurdod berfformiodd orau yng Nghymru o ran canlyniadau TGAU, gyda thros chwarter ein disgyblion yn cyflawni 5 neu fwy gradd A* i A TGAU (cynnydd o 3% oddi ar y flwyddyn flaenorol).
  • Llwyddwyd i gwblhau Rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru, a uwchraddiodd 3,800 o dai cyngor gan wella’n sylweddol lefelau boddhad tenantiaid.
  • Llwyddwyd i dreialu Cynllun ‘Prynu gyda Hyder’ ar draws y Fro i roi tawelwch meddwl i drigolion wrth siopa/dewis crefftwr gydag ardystiad Safonau Masnach.
  • Llwyddwyd i gyflawni statws Baner Werdd i 10 o’n parciau i gydnabod safon dda’r parciau a’r mannau gwyrdd sydd ar gael i drigolion y Fro gydol y flwyddyn. 

I gael rhagor o wybodaeth darllener y crynodeb o’r adroddiad neu’r adroddiad llawn

 

Bydd copïau caled o’r cynllun a’r crynodeb hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd ac wrth dderbynfeydd cynghorau.