Cost of Living Support Icon

Cynllun Gwella Windsor Road / Plassey Street

Bydd rheoli traffig ar gyfer gwaith adeiladu fel rhan o Gynllun Gwella Windsor Road/Plassey Street.

 

O ddydd Llun 07 Hydref 2019 am oddeutu 21 wythnos

 

Mae’r cynllun wedi ei ariannu gan arian Adran 106 a gafwyd gan ddatblygwr Penarth Uchaf ar gyfer gwelliannau'r briffordd oddi ar y safle a thrafnidiaeth gynaliadwy. Nod y cynllun ydy dod â gwelliannau seilwaith i hyrwyddo teithio ar droed ac ar feic yn ac o gwmpas cyffordd Windsor Road/Plassey Street.

 

Windsor-Road-Plassey-Street-Improvement-Scheme

 

 

Mae’r gwaith yn cynnwys:

  • Gwelliannau i’r gylchfan bresennol trwy ail-unioni ymyl y cwrbyn, bydd hyn yn creu rhagor o wyriad ar gyfer gyrrwr sy’n defnyddio’r gylchfan, ac felly bydd yn gostwng cyflymder cerbydau sy’n cyrraedd.

  • Creu gerddi glaw, ardaloedd plannu a phafin a fydd hefyd yn creu system ddraenio dŵr wyneb gynaliadwy.

  • Dwy groesfan twcan ar ochrau Plassey Street a Windsor Road y gyffordd, a fydd yn rhoi cyfleuster gwell i gerddwyr a beicwyr.

  • Ymhellach tua’r dwyrain ar Plassey Street – Adeiladu gerddi glaw i ddisodli’r rhwystrau ymwthiol sydd yno ar hyn o bryd, a fydd yn cynorthwyo â draenio dŵr wyneb a sicrhau trefniant sy’n edrych yn well.

  • Rheilffyrdd i ddiffinio’r ffin rhwng Windsor Road a Pharc y Pant.

  • Caiff y fynedfa i’r parc o gyffordd cylchfan Windsor Road/Plassey Street ei gwella gyda nodwedd newydd wedi ei dylunio'n gelfydd. Er mwyn gwneud y gwaith hwn, bydd angen gwaith ar yr arglawdd ym Mharc y Pant.

 

 

Yn anffodus, oherwydd natur y gwaith a’r rheoli traffig y bydd ei angen, mae rhywfaint o darfu yn anorfod; fodd bynnag, gwnawn bob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl.