Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn gosod ei gynlluniau ar gyfer dyfodol disgleiriach ger bron preswylwyr y Fro


Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi ei Cynllun Corfforaethol drafft sy’n nodi sut y caiff gwasanaethau eu darparu dros y pum mlynedd nesaf.

 

  • Dydd Mawrth, 22 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi ei Cynllun Corfforaethol drafft sy’n nodi sut y caiff gwasanaethau eu darparu dros y pum mlynedd nesaf.


Gyda phwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth i wella llesiant lleol, nod y cynllun yw cyflawni gweledigaeth y Cyngor ar gyfer ‘Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair’.


Mae’r cynllun wedi ei ddatblygu drwy edrych ar ystod o wybodaeth, gan gynnwys sut bydd y boblogaeth yn newid a gwasanaethau presennol y Cyngor a sut fydd angen cyflawni’r rhain yn y dyfodol. 


Mae’r cynllun yn cynnwys pedwar amcan drafft sef:

  • Gweithio gyda a thros ein cymunedau;
  • Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy;
  • Cynorthwyo pobl yn eu cartrefi ac yn eu cymuned; a
  • Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd. 

Dwedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng Neil Moore, “Dros y pum mlynedd diwethaf, Cyngor Bro Morgannwg fu’r Awdurdod Lleol mwyaf effeithiol ei berfformiad yng Nghymru, er mae yna wastad pethau y gallem ni wella arnyn nhw. Rydym wedi mabwysiadu ymagwedd arloesol tuag at ein gwaith ac mae’r canlyniadau yn destament i staff y Cyngor, aelodau etholedig, partneriaid a’n cymunedau. 


“Wrth edrych ymlaen, rydym yn agor i syniadau a ffyrdd newydd o weithio ar adeg pan fydd y galw ar wasanaethau’r Cyngor yn dal i gynyddu. Drwy weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid rwy’n hyderus y byddwn yn llwyddo i gyflawni’r nodau rydym wedi eu gosod yn y cynllun hwn.”


Mae’r Cyngor yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun drafft y disgwylir iddo bod yn ei le rhwng Gwanwyn 2020 - 2025. Bydd cynllun cyflawni blynyddol yn ategu’r cynllun ac yn nodi sut fydd pob amcan yn cael ei gyflawni. 


Am ragor o wybodaeth ac i ymateb i’r ymgynghoriad ewch i wefan y Cyngor.