Cost of Living Support Icon

 

Maer Ieuenctid a Dirprwy Faer Ieuenctid wedi'u hethol

Bu Nishenka Rajapakse a Nikita Wyman yn cael eu hethol yn Faer Ieuenctid a Dirprwy Faer Ieuenctid o Cabinet Ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer 2019/20.

 

  • Dydd Iau, 24 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



Youth Cabinet Mayor and Deputy Mayor 2019-20

 

Tarwyd dros 5,000 o bleidleisiau mewn ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid ar hyd y Fro. Bu'r cardiau pleidleisio yn cynnwys maniffestos yr ymgeiswyr, gan gynnwys eu gobeithion ar gyfer y Cabinet. 

Grŵp o bobl ifanc wedi'u hethol o Fforwm Ieuenctid y Fro yw'r Cabinet Ieuenctid. Mae'r Fforwm wedi'i wneud lan o gynrychiolwyr ifanc o'r Fro, sy'n cwrdd yn aml i drafod materion i'w gwneud a phobl ifanc. Mae'r Cabinet yn trafod materion sy'n fwy penodol i'r Cyngor. 

Bydd y ddwy ohonynt nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli llais pobl ifanc yn y Fro.