Cost of Living Support Icon

 

Oriel Gelf Ganolog i gynnal arddangosfa Coleg Caerdydd a'r Fro am y drydedd flwyddyn ar ddeg yn olynol - gyda thro digidol!

Caiff arddangosfa rithiwr o waith terfynol y myfyrwyr ei chynnal yn Oriel Gelf Ganolog, oriel gelf enwog Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 05 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Maria De La Luz Rosales Barahona WJEC Foundation Fine Art 2Yn cynnwys gwaith celf gan fyfyrwyr Celf a Dylunio lefel Sylfaen, mae’n arddangos amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys ffotograffiaeth, celf gain, graffeg a dylunio tri dimensiwn.
 
Er bod yr adnoddau a’r cymorth mentora a oedd ar gael iddynt yn gyfyngedig, cwblhaodd y myfyrwyr eu cwrs yn llwyddiannus drwy diwtorialau ar-lein.
 
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer: “Rydym yn falch iawn i gynnal arddangosfa diwedd blwyddyn y coleg am dros degawd yn nawr, gan gynnwys y flwyddyn hon. Er gwaethaf yr anawsterau presennol, mae’r myfyrwyr wedi parhau gyda’u hastudiaethau ac mae eu gwaith caled yn haeddu cydnabyddiaeth.
 
“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi parhau i gefnogi'r celfyddydau gyda mentrau digidol, ac rydym yn falch o gynnwys gwaith y coleg yn rhan o hyn.”
 
Nododd yr arddangosfa hefyd ymddeoliad y tiwtor celfyddyd gain Adrian Metcalfe, sydd wedi gweithio’n agos gyda’r oriel ers 2007.
 
Cewch weld arddangosfa gelf diwedd blwyddyn rithwir Coleg Caerdydd a’r Fro ar:

 

Oriel Gelf Ganolog