Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn ysgrifennu at fusnesau trwyddedig ar Ynys y Barri

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ysgrifennu at fusnesau sy'n gwerthu alcohol o amgylch Ynys y Barri yn eu hatgoffa o'u rôl yn llwyddiant y gyrchfan hon sy'n canolbwyntio ar deuluoedd

 

  • Dydd Gwener, 10 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



Gyda chyfyngiadau'n ymwneud â'r sector lletygarwch ar fin cael eu llacio o ddydd Llun, caniateir i safleoedd trwyddedig werthu alcohol i'w yfed yn eu mannau awyr agored eu hunain.


Yn flaenorol, roedd rhai wedi bod yn gweithredu gwasanaethau tec-awê heb reolaethau, a allai fod wedi cyfrannu at enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a diffyg ymbellhau cymdeithasol o gwmpas yr Ynys.


Cyn y mesurau diweddaraf i lacio’r cyfnod cloi, mae arweinydd y Cyngor Neil Moore a'r Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas wedi anfon llythyr i dafarndai, caffis a bwytai.

 

Civic

Rhybuddiwyd y busnesau hyn y bydd canlyniadau os na fyddant yn gweithredu'n gyfrifol.


Mae Ynys y Barri yn destun Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n golygu ei bod yn drosedd yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yn y gyrchfan.


Gall yr Heddlu a Swyddogion Gorfodi'r Cyngor atafaelu alcohol a rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig os nad yw'r Gorchymyn hwn yn cael ei ddilyn yn briodol.


A gall busnesau hefyd wynebu camau gorfodi os bydd alcohol sy'n cael ei yfed mewn ardaloedd cyfyngedig yn cael ei brynu oddi wrthynt.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i lawer o fusnesau, yn enwedig y rheini yn y sector lletygarwch, ac rwy'n croesawu'r ffaith y gall nifer ohonynt ddechrau masnachu eto’n fuan, er mewn capasiti cyfyngedig.


“Fodd bynnag, rhaid gwerthu alcohol yn barchus ac yn ofalus. Rhaid ystyried yr effaith ar deuluoedd, plant a'r cyhoedd sydd yn ymweld ag Ynys Y Barri, sydd â rheolaethau llym dros yfed alcohol.


"Nid yw digwyddiadau yn ddiweddar o ymddygiad gwrthgymdeithasol a grwpaiu yn ymgynnull yn dderbyniol ac ni chânt eu goddef.


"Rydym wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd diwethaf i adfywio'r Ynys a'i hail-sefydlu fel un o brif drefi glan môr Cymru. Ni fyddaf yn gadael i’r enw da hwnnw gael ei ddinistrio ac i brofiad ymwelwyr eraill gael ei ddifetha gan weithredoedd lleiafrif anystyriol neu fusnesau anghyfrifol sy'n hwyluso ymddygiad o'r fath.


"Gall yr Heddlu a'n Swyddogion Gorfodi rhoi camau ar waith yn erbyn y rhai sy'n yfed alcohol lle na ddylen nhw ar yr Ynys ac yn erbyn y siopau sydd wedi'i gyflenwi."