Cost of Living Support Icon

 

Gwahodd gwirfoddolwyr i chwilio am ddreigiau Porthceri

Mae tîm Parciau Gwledig Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn prosiect newydd a ariennir gan grant Cynllun Cymunedol Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru.

 

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



Bydd y rhai sydd â diddordeb yn cael eu hannog i chwilio’r pyllau a'r dolydd newydd sydd wedi disodli cwrs golff y parc ar am fywyd gwyllt sydd yn llewyrchu.
 
Mae'r prosiect yn arbennig o awyddus i hyrwyddo rhywogaethau eiconig y parc - gweision y neidr, madfallod a gwiberod.


Dioddefodd yr hen gwrs golff lifogydd sylweddol drwy gydol ei oes, gan olygu yn amlach na pheidio na ellid chwarae arno.

Y llynedd, daeth yn rhan o brosiect ail-wylltu gyda'r nod o wella bioamrywiaeth y safle a chynyddu nifer y rhywogaethau fel pryfed peillio, infertebratau, ymlusgiaid, adar a mamaliaid.
 
Dwedodd Melanie Stewart, parcmon safle Parc Gwledig Porthceri a rheolwr y prosiect:

"Nod prosiect Y Dreigiau yn ein Parc yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd cynefinoedd, rhywogaethau a'r rhan y maent yn ei chwarae yn y gwaith o liniaru'r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
 
"Dylai gwirfoddolwyr dynnu lluniau beth bynnag maen nhw'n ei ganfod yn y cynefinoedd ac mae croeso iddyn nhw geisio adnabod y rhywogaethau. Bydd y lluniau gorau yn ymddangos ar wefan y parc a bydd yr holl gofnodion yn helpu i ddangos cynnydd y prosiect.
 
"Bydd ein gwirfoddolwyr hefyd yn cynnal digwyddiad dathlu, gan sefydlu ardal ddysgu newydd ar gyfer ysgolion a darparu hyfforddiant ac arolygon ar gyfer y rhywogaethau hyn o fewn y gymuned."

I anfon eich cyflwyniadau neu i ddarganfod mwy am ddreigiau Porthceri neu os hoffech chi helpu i gynnal arolygon o gwmpas y parc ac ar hyd yr arfordir, cysylltwch â:

  • porthkerry@valeofglamorgan.gov.uk