Cost of Living Support Icon

 

Yr Oriel Gelf Ganolog yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Mynychodd dros 150 o westeion oriel fawreddog Cyngor Bro Morgannwg i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gydag arddangosfa gan Gymdeithas Celfyddydau Menywod Cymru.

 

  • Dydd Mercher, 11 Mis Mawrth 2020

    Bro Morgannwg



Cllr McCaffer giving welcome speechMae'r arddangosfa'n arddangos amrywiaeth eang o waith gan gynnwys cerfluniau, paentiadau, tecstilau, ffotograffiaeth cerameg a phrintiau.

 

Mae wal cerameg ryngweithiol, o'r enw 'Cyffwrdd Fi', hefyd wedi'i gosod fel rhan o'r arddangosfa.

 

Cynhaliwyd y digwyddiad agoriadol ffurfiol ar ddydd Sadwrn 7 Mawrth a oedd yn cynnwys perfformiad byw gan y dawnsiwr a'r artist Marega Palser. 

 

Aeth yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer a’r Aelod Cynulliad, Jane Hutt, i'r agoriad. 

"Roedd y digwyddiad heddiw yn gyfle gwych i ni gydnabod gwaith ac ymdrechion yr artistiaid benywaidd talentog hyn.

 

"Fe wnes i fwynhau'r darn wal rhyngweithiol yn fawr, oedd yn caniatáu i'r gwyliwr ymwneud â'r gwaith celf, gan roi cyfrif gonest o'r profiad benywaidd. 

 

"Mae'r celfyddydau wedi bod yn ofod i fenywod gael mynegi a datblygu eu hunain ers amser - ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddathlu a chefnogi hyn." - y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.

 

Fel rhan o ddathliad DRhM, bydd digwyddiad dilynol yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 14 Mawrth.

 

Bydd yr artist Sally Moore a'r athro Gerda Roper yn cynnal sgwrs, gan ddechrau am 11.30am.Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal tan ddydd Sadwrn, 28 Mawrth.  Am ragor o wybodaeth ewch i:

 

Art Central Homepage