Cost of Living Support Icon

 

Pibellau a choiliau plastig yn dod i’r lan

Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) yn ymchwilio i'r darnau a ddaeth i’r lan yng ngogledd Dyfnaint ac yn ne Cymru.

 

  • Dydd Mawrth, 03 Mis Mawrth 2020

    Bro Morgannwg

 


 

washed up plastic

Plastic on shore

Close up of plastic

 

Dywedodd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau:

Rydyn ni’n ymchwilio i'r darnau a ddaeth i’r lan ar hyd arfordir gogledd Dyfnaint a de Cymru.

 

Bu Timau Achub Gwylwyr y Glannau Croyde a Bideford yng ngogledd Dyfnaint yn cynorthwyo gyda gwaith glanhau ar ôl i ddarnau o bibellau a choiliau plastig, ddechrau dod i’r lan ar Chwefror 27.

 

Daeth eitemau eraill i’r lan ar hyd arfordir Bro Morgannwg.

 

Daeth yr eitemau hyn i’r lan ar ôl cael eu colli o long gynwysyddion. Mae'r gwaith glanhau yn cael ei arwain gan y cynghorau lleol ac rydym yn gweithio gyda pherchnogion llwythi a gwneuthurwyr i gynorthwyo yn y broses adfer.”

Noder: Mae gan y deunydd hwn berchennog, felly ni ddylech gymryd unrhyw beth. Cofiwch fod gofyniad cyfreithiol arnoch i roi gwybod i Dderbynnydd y Llongddrylliad. 

 

Adrodd 

Os gwelwch unrhyw beth a allai fod yn gysylltiedig â'r digwyddiad hwn, rhowch wybod i'ch Canolfan Gweithrediadau Gwylwyr y Glannau lleol, ynghyd â disgrifiad o'i leoliad, ac unrhyw luniau a dynnoch.

 

  • Local Coastguard: 01646 690 909 / C1V: 01446700111