Cost of Living Support Icon

 

Sgam Treth Gyngor

Sgam e-bost yn cynnig ad-daliad treth gyngor er mwyn cael manylion talu gan breswylwyr.

 

  • Dydd Mercher, 13 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



 

Rydym wedi derbyn adroddiadau fod twyllwyr wedi cysylltu â rhai preswylwyr gan ddefnyddio brandio Gov.uk ar e-byst. Mae’r e-byst yn datgan fod preswylwyr yn derbyn gostyngiad ar eu treth gyngor ac yn cynnig talu’r gostyngiad yn uniongyrchol i’w cyfrif banc.

 

Annogir preswylwyr i beidio ymateb i’r e-byst yma, na chlicio ar unrhyw ddolenni na datgelu eu manylion cyfrif banc nac unrhyw wybodaeth bersonol arall os bydd rhywun sy’n cynnig gwasanaeth o’r fath yn cysylltu.

 

Isod ceir enghraifft o e-bost sgam a dderbyniwyd gan breswylwyr:

Council-Tax-Scam email

 

Os ydych wedi derbyn e-bost amheus, hysbyswch y cyngor:

  • 01446 709564

 

 

 

Mae arweiniad ar gael hefyd gan Wasanaeth Cyngor ar Bopeth:

  • 03454 040506