Cost of Living Support Icon

 

Ailagor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref 

Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn ailagor o ddydd Mawrth 26 Mai, ond byddant yn gweithredu drwy apwyntiad yn unig, er mwyn helpu i gydymffurfio â rheoliadau ymbellhau cymdeithasol, yn diogelu trigolion a staff.

  • Dydd Mawrth, 19 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg

Recycling-centre signs

Bydd trigolion yn gallu trefnu apwyntiad o ddydd Iau 21 Mai, 9.00am.

 

Bydd yn ofynnol i unrhyw drigolion sy’n teithio y tu allan i’w cartref i CAGC ym Mro Morgannwg gydymffurfio â chanllawiau presennol y Llywodraeth a chadw at y mesurau ymbellhau cymdeithasol sydd ar waith i sicrhau bod y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGCau) yn gweithredu ac yn cael eu defnyddio’n ddiogel.

 

Yn y dechrau, dim ond ceir a ganiateir i mewn i’r CAGC ar Ystad Fasnachu’r Iwerydd, y Barri ac yn Llandŵ. Yn anffodus, ni allwn gynnig mynediad nac apwyntiadau i ôl-gerbydau neu faniau ar hyn o bryd.

 

Oherwydd y galw presennol, dim ond un slot fesul aelwyd fesul cyfnod 30 diwrnod y caniateir. Rydym hefyd yn gofyn i drigolion wneud apwyntiadau dim ond pan fydd yn gwbl angenrheidiol, oherwydd bod capasiti’r safleoedd yn gyfyngedig.

 

Mae’r canllawiau canlynol wedi eu rhoi ar waith:

  • Cyn dod i’r ganolfan, rhaid i drigolion ddosbarthu eu gwastraff neu ailgylchu yn briodol er mwyn lleihau’r amser ar y safle.

     

  • Rhaid i drigolion ddangos tystiolaeth preswylfa e.e. trwydded yrru neu fil cyfleustodau ac arddangos hyn ar eu ffenestr flaen wrth aros i fynd ar y safle.

     

  • Rhaid i drigolion ddilyn arwyddion diogelwch a’r canllawiau ar y safle.

  • Dylai trigolion adael eu ceir pan gânt eu hysbysu i wneud hynny gan aelod staff y safle yn unig.

Sylwer: Ni allwn gynnig cymorth gyda chodi na dosbarthu, felly gwnewch yn siŵr y gallwch drin yr holl wastraff ac ailgylchu a fydd gennych.

 

Dymuna Cyngor Bro Morgannwg atgoffa trigolion y byddwn yn gofyn i chi adael y safle os na fyddwch yn cadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol neu os ydych yn cam-drin staff.

 

Casgliadau Gwastraff Swmpus

Os oes gennych eitemau ac offer cartref mawr megis gwelyau, oergelloedd a dodrefn gallwch naill ai eu hailgylchu neu drefnu casgliad gwastraff cartref.

 

Casgliadau Gwastraff Swmpus

 

Mae gadael eitemau y tu allan i gatiau CAGC neu ar y stryd neu mewn parciau, coetiroedd neu gaeau yn gyfystyr â thipio anghyfreithlonMae tipio anghyfreithlon yn drosedd a gallwch gael cosb benodedig o hyd at £400, neu eich erlyn.

 

 

Canllawiau i awdurdodau lleol ar ailagor canolfannau gwastraff ac ailgylchu